Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Yn ôl astudiaeth sy'n dangos allyriadau methan llynnoedd, dylid ailystyried newid yn yr hinsawdd

Cafwyd dealltwriaeth newydd ar sut y caiff y nwy tŷ gwydr, methan, ei gynhyrchu yn nyfroedd wyneb llynnoedd gan astudiaeth newydd o Brifysgol Abertawe, a ddylai ein hannog i ystyried y cylch methan byd-eang.
Methan yw'r ail nwy tŷ gwydr pwysicaf sy'n seiliedig ar garbon ar ôl carbon deuocsid, ac mae'r cynnydd parhaus ohono yn yr atmosffer yn fygythiad i'r hinsawdd fyd-eang.
Yn ôl ymchwil gonfensiynol, gan gynnwys asesiadau gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC), caiff methan ei gynhyrchu'n naturiol mewn amgylcheddau sy'n brin o ocsigen megis corsydd a gwlypdiroedd. Fodd bynnag, mae canlyniad yr astudiaeth newydd hon, a gyhoeddir yn Nature Communications bellach wedi herio'r asesiadau blaenorol hyn.
Dadansoddodd y tîm ymchwil o Goleg Gwyddoniaeth y Brifysgol, Lyn Stechlin yng ngogledd-ddwyrain yr Almaen, a gweld bod cryn dipyn o fethan yn cael ei gynhyrchu yno yn yr haen ocsigenedig iawn ar yr wyneb.
Darganfu hefyd fod y nwy methan yn cael ei gynhyrchu ar yr wyneb wrth ddod i gysylltiad uniongyrchol â'r aer, a bod lefelau'r allyriadau sy'n teithio'n uniongyrchol i'r atmosffer hefyd yn sylweddol.
Gwnaeth yr ymchwilwyr ragweld bod allyriadau o'r dyfroedd ar yr wyneb yn debygol o gynyddu gyda maint y llyn, a gallent gyfrif am dros hanner o allyriadau arwynebol methan am lynnoedd sy'n fwy nag un cilometr sgwâr.
Meddai'r Athro Kam Tang o Adran y Biowyddorau Prifysgol Abertawe: "Mae ein hymchwil yn dangos bod dŵr llynnoedd ocsigenedig iawn yn bwysig iawn, ond eu bod yn ffynhonnell o allyriadau methan i'r atmosffer sydd wedi'u hesgeuluso ers amser hir. Mae'r canfyddiadau newydd hyn yn agor llwybrau newydd ar gyfer ymchwil i fethan ac yn cefnogi asesiad byd-eang mwy cywir o'r nwy tŷ gwydr pwerus hwn.
Dywedodd prif awdur yr astudiaeth, Marco Günthel: "Mae allyriad methan mewn llynnoedd yn seiliedig ar rwydwaith cymhleth o brosesau biocemegol a ffisegol – ni chaiff rhai eu deall yn iawn o hyd. Rwy'n gobeithio y bydd ein hastudiaeth yn ysgogi mwy o ymchwil ynghylch y pwnc hwn oherwydd bod ei hangen i ddeall y cylch methan byd-eang yn llawn ac i wella rhagolygon o ran newid yn yr hinsawdd."