Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei chynnwys ymhlith 100 cyflogwr mwyaf cynhwysol gorau'r DU ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) am y bumed flwyddyn yn olynol.
Mae mynegai 100 Cyflogwr Gorau Stonewall yn mesur ymdrechion cyflogwyr i fynd i’r afael â gwahaniaethu a chreu gweithle cynhwysol ar gyfer gweithwyr LHDT.
Eleni mae Prifysgol Abertawe wedi cynnal ei safle yn 47ain yn nhabl cynghrair cyflogwyr y DU. Mae’r brifysgol wedi codi i’r chweched safle ymhlith ymgeiswyr y sector addysg uwch.
Dywedodd Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae’n wych gweld ein bod wedi cadw’n safle ymhlith y 100 cyflogwr gorau am y pumed tro, yn enwedig gan fod y mynegai yn gynyddol gystadleuol.
“Rwy’n falch bod Prifysgol Abertawe yn parhau i ddathlu ein gwerthoedd trwy ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth, gan fod hynny’n tanlinellu’r fath o brifysgol rydym ni.”
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: “Eleni, cymrodd 503 o sefydliadau rhan yn y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle. Mae pedwar o’r 15 corff addysg sy’n ffurfio’r 100 uchaf yn dod o Gymru, ac mae safle Prifysgol Abertawe yn 47ain yn dyst i’r gwaith cynhwysiant ac amrywiaeth LDHT parhaus y maent yn gweithio’n ddiflino i’w weithredu.”
Yn ôl ymchwil Stonewall, mae 35% o bobl LDHT wedi cuddio eu hunaniaeth yn y gweithle, a 18% wedi derbyn sylwadau negyddol gan gydweithwyr oherwydd eu hunaniaeth.
Mae mynegai 100 Cyflogwr Gorau Stonewall yn declyn meincnodi pwerus sy'n seiliedig ar dystiolaeth a ddefnyddir gan gyflogwyr i asesu eu cyflawniadau a'u cynnydd ar gydraddoldeb LDHT yn y gweithle. Rhaid i bob cyfranogwr ddangos ei arbenigedd mewn 10 maes gwahanol o bolisi ac ymarfer cyflogaeth, gan gynnwys grwpiau rhwydweithio, datblygu gyrfa, hyfforddiant ac ymgysylltu â'r gymuned.
Darllenwch fwy am y rhestr 100 Cyflogwr Gorau.