Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae Rory Wilson, athro sŵoleg ym Mhrifysgol Abertawe, wedi derbyn Gwobr Ymchwil Humboldt gan Sefydliad Alexander von Humboldt yn yr Almaen.
Rhoddir y wobr i gydnabod cyflawniadau cyfan ymchwilydd hyd yma, ac i academyddion y mae eu darganfyddiadau sylfaenol, damcaniaethau newydd, neu fewnwelediadau wedi cael effaith sylweddol ar eu disgyblaeth eu hunain ac y disgwylir iddynt barhau i gynhyrchu cyflawniadau blaengar yn y dyfodol.
Rhoddir €65,000 i enillwyr gwobrau Humboldt i gynnal ymchwil, ac fe'u gwahoddir i dreulio cyfnod o hyd at flwyddyn yn cydweithio ar brosiect ymchwil gyda chydweithwyr arbenigol mewn sefydliad ymchwil yn yr Almaen.
Yn sŵolegydd byd-enwog, mae gwaith yr Athro Wilson yn cynnwys datblygu a defnyddio dulliau newydd, yn enwedig tagiau electronig ar anifeiliaid, i astudio ecoleg ymddygiadol anifeiliaid enigmatig sydd, fel arall, yn anodd eu hastudio. Mae wedi bod yn ymwneud â gwaith ledled y byd, gydag anifeiliaid mor amrywiol ag albatrosiaid, armadilos, moch daear, llewpartiaid, condoriaid, pengwiniaid, siarcod a diogod.
Yn 2006, dyfarnwyd Gwobr Rolex am Fenter i'r Athro Wilson am ei ddatblygiadau tagiau anifeiliaid. Roedd yn brif ymgynghorydd gwyddonol ar gyfer cyfres National Geographic, Great Migrations, mae wedi'i rhestru fel un o gadwraethwyr gorau Prydain yn Rhestr Bywyd Gwyllt y BBC, mae'n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac mae hefyd yn aelod o Gymdeithas Academia Europaea.
Bydd yr Athro Wilson yn cydweithio ag ymchwilwyr sy'n gweithio ar ecoleg symud anifeiliaid trwy ddefnyddio tagiau uwch-dechnoleg sy'n cofnodi gweithgareddau anifeiliaid gwyllt yn y manylyn lleiaf. Trwy astudio anifeiliaid mor amrywiol ag adar, ystlumod a moch daear mewn safleoedd ledled y byd, byddant yn ceisio deall sut mae symudiadau anifeiliaid wedi'u strwythuro ac i ba raddau y mae cyffredinedd trawsbynciol mewn patrymau symud.
Wrth dderbyn ei Wobr Ymchwil Humboldt, dywedodd yr Athro Wilson: “Mae’n fraint ac anrhydedd derbyn y wobr hon. Mae'n dod â mi i deulu nodedig o academyddion sy'n rhyngweithio â'i gilydd o fewn cymuned arbennig a bywiog iawn”.