Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Bydd DylanED, menter gan Brifysgol Abertawe sydd â’r nod o gyflwyno plant a phobl ifanc i fyd llenyddiaeth, yn derbyn hwb ariannol mawr gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies dros y tair blynedd nesaf.
Mae DylanED, cangen addysgol Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, yn gweithio gyda phlant ysgol a myfyrwyr, gan eu cyflwyno i lenyddiaeth a'u hannog i ddatblygu eu lleisiau creadigol. Defnyddir y cyllid hwn i ddatblygu rhaglen arloesol o weithgareddau o fis Medi 2020.
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Rhys Davies ym 1991 gydag arian a ddarparwyd gan Lewis Davies, brawd yr awdur. Ei nod yw meithrin ysgrifennu Cymreig yn Saesneg, yn enwedig yng nghymoedd de Cymru, ac yn y genres yr ysgrifennodd Rhys Davies ynddynt.
Dywedodd Peter Finch, ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth: “Bydd y rhaglen newydd hon o DylanED, dan arweiniad Dr Elaine Canning, Swyddog Gweithredol Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, yn ymgysylltu â chyfres o fentrau a darpariaethau newydd sylweddol. Trwy raglen o weithgareddau yn unol â'r cwricwlwm newydd yng Nghymru, bydd DylanED yn canolbwyntio ar ddefnyddio iaith, llythrennedd a chyfathrebu ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3.
“Mae'r rhaglen yn bwriadu sefydlu llysgenhadon myfyrwyr newydd ar gyfer llenyddiaeth a chreadigrwydd, darparu ffocws ar addysg hawliau dynol a chynnig cyfnewidiadau adrodd straeon rhwng pobl ifanc o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn ne Cymru ac eraill yn y DG. Bydd yn sefydlu Darlith flynyddol Rhys Davies yn Llyfrgell y Glowyr De Cymru, yn ail-lansio Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies, ac yn cyflwyno Gŵyl Deuluol Llenyddiaeth Plant newydd yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin Abertawe.”
Yn ogystal â DylanED, bydd Llyfrgell y Glowyr De Cymru hefyd yn derbyn gwobr sylweddol gan yr Ymddiriedolaeth. Yr adnodd archifol cyfoethog hwn fydd sylfaen Cymrodoriaeth Ymchwil Rhys Davies. Bydd y gymrodoriaeth yn cynnwys astudiaeth agos o filieu deallusol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru yng nghanol yr ugeinfed ganrif (gan gynnwys sefydliadau mwyngloddio a llyfrgelloedd), a feithrinodd garfan eithriadol o awduron creadigol y gwnaeth eu gwaith arwain at ganfyddiadau eang o dde Cymru a dylanwadol hanesyddiaeth. Prif Ymchwilydd y Prosiect Ymchwil hwn rhwng 2020 a diwedd 2022 fydd yr Athro John Spurr o Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Y Cymrawd Ymchwil a benodir bydd Dr Daryl Leeworthy, y bydd ei gylch gwaith yn cynnwys cyhoeddiadau ac ymgysylltu â'r cyhoedd.