Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi pedair llysgennad newydd ym Mhrifysgol Abertawe er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Mae’r pedair llysgennad yn Abertawe ymhlith 23 o lysgenhadon llwyddiannus sydd wedi’u lleoli mewn chwe prifysgol ledled Cymru.
Bydd Alpha Danielle Evans, Lauren Bagnall, Sophie Ann Marie Wiliams a Maisie Efa Edwards yn dechrau ar eu gwaith fis yma ac yn gyfrifol am gwblhau gwahanol dasgau drwy gydol 2020.
Eu prif rôl fel llysgenhadon fydd perswadio mwy o ddisgyblion ysgol a cholegau addysg bellach i ddilyn eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno’r manteision o hynny.
Byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn amryw o ddigwyddiadau megis ymweliadau ysgolion, ffeiriau UCAS ac Eisteddfodau yn ogystal â chofnodi eu profiadau ar flog ac ar amryw sianel cyfryngau cymdeithasol y Coleg.
Meddai Elin Williams ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Rydym yn hynod gyffrous i allu cyhoeddi ein bod wedi penodi 23 o lysgenhadon newydd o’r sector addysg uwch ar gyfer 2020. Mae cael criw o bobl ifanc a brwdfrydig yn cydweithio gyda ni i hyrwyddo cyfleoedd astudio yn Gymraeg yn gymorth mawr o ran rhoi darlun positif o bwysigrwydd astudio’n Gymraeg.
“Mae ystod eang o bynciau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein prifysgolion ar draws Cymru bellach a rôl y llysgenhadon fydd egluro’r manteision o astudio’n Gymraeg.”
Meddai Dr Gwenno Ffrancon, cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae Prifysgol Abertawe yn falch tu hwnt o weld bod pedair o'n myfyrwyr wedi'u dewis yn llysgenhadon i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer 2020. Dros y blynyddoedd mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr yn hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion a cholegau addysg bellach ac wedi bod yn rolau model arbennig i ddarpar fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith.
“Rwy'n siwr y bydd y bedair - Maisie, Alpha, Sophie Ann a Lauren - yn cyflawni gwaith arbennig iawn ar ran y Coleg ac yn elwa ar brofiadau gwych."
Yn y llun uchod: Maisie Efa Edwards, Lauren Bagnall, Sophie Ann Marie Williams ac Alpha Danielle Evans.