Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Dyfarnwyd £2.9miliwn i Brifysgol Abertawe ar gyfer Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) 2020-21.
Bydd y buddsoddiad mawr hwn i hyfforddiant doethurol yn galluogi Prifysgol Abertawe i ddatblygu a gwella'n sylweddol ei chymorth i'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil a diwydiant yn y meysydd Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol.
Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol EPSRC 2020-21, a bennir gan incwm EPSRC Prifysgol Abertawe hyd yn hyn, wedi mwy na dyblu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae maint y buddsoddiad hwn yn nodi penllanw allbynnau ymchwil sy'n gyson o safon uchel a phartneriaethau cydweithio diwydiannol.
Mae'r cyhoeddiad yn dilyn llwyddiant sylweddol Prifysgol Abertawe wrth ddenu buddsoddiad hyfforddiant doethurol EPSRC gwerth £23.2 miliwn, gan gynnwys y Canolfannau Hyfforddiant Doethurol newydd mewn Haenau Diwydiannol Gweithredol, Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol ac Uwch Gyfrifiadura a Chydweithrediadau a Rhyngweithiadau gyda Systemau a Yrrir gan Ddata.
Dywedodd yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor:
"Rydym wrth ein boddau bod ein cryfderau ymchwil mewn Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, a'r gymuned ymchwil ôl-raddedig sy'n ffynnu, wedi'u cydnabod gan EPSRC. Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn dangos bod Prifysgol Abertawe'n parhau i fod yn gystadleuydd amlwg ar lwyfan ymchwil y DU ac yn fyd-eang.
“Bydd yn caniatáu i ni feithrin perthnasoedd newydd gyda phartneriaid academaidd a diwydiannol a gwella ein rhwydweithiau presennol. Yn bwysicaf oll, bydd yr ymchwilwyr ôl-raddedig a gefnogwyd gan y buddsoddiad hwn yn mynd i'r afael â heriau ymchwil a diwydiant hanfodol y dyfodol, megis gwella pŵer ynni solar a harneisio deallusrwydd artiffisial i ragweld canser."
Bydd y buddsoddiad yn cefnogi oddeutu 24 o ysgoloriaethau ymchwil bob blwyddyn ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig newydd, ar draws ffiniau'r tair disgyblaeth ac ynddynt: Peirianneg, Gwyddoniaeth (gan gynnwys Mathemateg) a Meddygaeth.
Mae cyfleusterau, offer a seilwaith Prifysgol Abertawe'n cynnig amgylchedd o safon fyd-eang i ymchwilwyr ôl-raddedig, gan gynnwys y Ffowndri Gyfrifiadol gwerth £31 miliwn, yr Adeilad Gwyddor Data gwerth £8 miliwn a adeiladwyd yn bwrpasol a phedwar cyfleuster Peirianneg o'r radd flaenaf ar gyfer cynnal ymchwil ddiwydiannol.
Dywedodd yr Athro Nuria Lorenzo-Dus, Deon Ymchwil Ôl-raddedig:
"Hyfforddiant doethurol yw man cychwyn ymchwil arloesol, a lle mae'r DU yn meithrin arweinwyr ymchwil a diwydiant y dyfodol. Mae'r buddsoddiad hwn yn cynrychioli pleidlais gref o hyder yn ein hymdrechion parhaus i ddatblygu a gwella ein hamgylchedd a'n cynnig ymchwil ôl-raddedig.
“Rydym yn hynod falch y bydd Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol EPSRC 2020-21 yn ein galluogi i ddenu ymchwilwyr mwyaf dawnus y byd i ddechrau eu siwrnai ymchwil ôl-raddedig yma."