Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae dau fyfyriwr arbennig ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Myfyriwr Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn yng ngwobrau'r Student Nursing Times eleni.
Mae Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol hefyd wedi cyrraedd rhestr fer y Profiad Myfyrwyr Gorau am y gwaith o sefydlu Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr.
Nod gwobrau mawreddog y Student Nursing Times yw dathlu a chefnogi llwyddiannau'r gymuned nyrsio myfyrwyr ledled y DG. Mae’r gwobrau eleni wedi derbyn record o 500 o gynigion gan fyfyrwyr nyrsio talentog, darparwyr addysg a mentoriaid.
Un sydd ar restr fer gwobr Myfyriwr Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn yw Sam Richards, 45 mlwydd oed, cyn rheolwr manwerthu o Abertawe wnaeth gymryd y naid ac ymunodd â Phrifysgol Abertawe yn 2017 i astudio Nyrsio Iechyd Meddwl. Mae ei le ar y rhestr fer yn cydnabod ei ymrwymiad i arweinyddiaeth myfyrwyr gan iddo gynorthwyo ei gyd-fyfyrwyr i ddatblygu eu rhinweddau arweinyddiaeth eu hunain trwy helpu i sefydlu Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr.
Meddai: “Fel un sydd wedi newid cyfeiriad, ac felly yn hwyrddyfodwr i fyd nyrsio, rwyf wedi ceisio manteisio i'r eithaf ar bob cyfle sydd wedi codi.
“Wedi i mi brofi hunan-amheuaeth go iawn a syndrom twyllwr ar ddechrau fy astudiaethau, cefais fy annog gan lawer yn y brifysgol i gofleidio profiad bywyd a sgiliau trosglwyddadwy fy ngyrfa werthfawr a harneisio’r rhain yn gadarnhaol mewn cyd-destun nyrsio.
“Mae'r llwyddiant a gyflawnais yn y Rhaglen Genedlaethol Arweinyddiaeth Myfyrwyr a chydag Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn wirioneddol oherwydd yr anogaeth hon ac mae'n rhywbeth rydw i wedi ceisio ei drosglwyddo i gyd-fyfyrwyr, darpar fyfyrwyr nyrsio a chydweithwyr."
Hefyd wedi ei enwebu ar gyfer gwobr Myfyriwr Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn mae Matthew Townsend, myfyriwr Nyrsio Oedolion 36 mlwydd oed o Aberdaugleddau. Ochr yn ochr â’i astudiaethau, mae Matthew wedi sefydlu rhwydwaith cymorth ar gyfer y gymuned LGBTQ + yn Sir Benfro. Mae e hefyd wedi cynnal hyfforddiant ymwybyddiaeth ar gyfer myfyrwyr sy'n nyrsio ac wedi annog y defnydd o'r cynllun cortyn enfys sy'n gadael i gleifion wybod eu bod yn cael gofal mewn lleoliad gofal iechyd sy’n LGBTQ + gyfeillgar.
Meddai Matthew: “Mae bod ar y rhestr fer yn golygu cryn dipyn i mi a bod fy ymdrechion ac ymroddiad i fy nghleifion a’r proffesiwn wedi eu cydnabod ar y lefel yma. Ni fyddai hyn oll wedi bod yn bosib heb gefnogaeth ddiysgog ffantastig a staff cefnogol. Hoffwn estyn diolch personol i Elaine Jones, fy mentor academaidd. Nid yw byth yn blino ar fy nghwestiynau niferus ac fy ysfa am wybodaeth a diolchaf iddi am fy helpu bob amser i fod y gorau y gallaf fod. "
Wrth gyrraedd y rhestr fer yng nghategori Profiad Myfyrwyr Gorau, dywedodd Beryl Mansel, cyfarwyddwr Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr y brifysgol: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer eleni. Y llynedd, fe wnaethon ni lansio'r Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol cyn cofrestru flwyddyn gyntaf. Rydym wedi gwneud cynnydd gwych ers hynny, ac mae'r enwebiad hwn yn deyrnged ardderchog i'n harweinwyr uchel eu cymhelliant yn y dyfodol, ac ni fyddai hyn yn bosibl hebddynt. "
Caiff enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni yn Llundain ar 24 Ebrill 2020.