Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n cyhoeddi buddsoddiad gwerth £4.5m ym Manc Data SAIL
Mae’r cyllid newydd, a fydd yn cynnal Banc Data SAIL am o leiaf y 5 mlynedd nesaf, yn rhan o becyn buddsoddi gwerth £44 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol i wella gofal a gwasanaethau.
Mae Banc Data SAIL, sy’n cynnwys biliynau o gofnodion personol, yn fanc data poblogaethau cyfoethog y gellir ymddiried ynddo. Mae’n gwella bywydau drwy ddarparu data diogel, dienw i ymchwilwyr y gellir ei gysylltu, cael mynediad ato a’i ddadansoddi unrhyw le yn y byd.
Mae Banc Data SAIL yn ganolog i weledigaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i greu seilwaith sy’n cefnogi’r gwaith o gyflwyno ymchwil iechyd a chymdeithasol o safon fyd-eang gan ddefnyddio data a gesglir fel arfer.
Sefydliad cenedlaethol, amlweddog, rhithwir yw Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy’n cael ei ariannu a’i oruchwylio gan Is-adran Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru.
Mae’n darparu seilwaith i gefnogi a chynyddu gallu o ran ymchwil a datblygu, yn cynnal amrywiaeth o gynlluniau ariannu ymatebol ac yn rheoli dyraniad ariannu ymchwil a datblygu’r GIG.
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru fu prif ariannwr Banc Data SAIL ers i’r sefydliad ddechrau yn 2007, gyda chymorth gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.
Meddai Cyfarwyddwr Banc Data SAIL, yr Athro David Ford,
“Bydd yr ymrwymiad hwn i ariannu’n ein galluogi i barhau i ddyfeisio gwelliannau a datblygiadau ychwanegol i wella iechyd a lles, ynghyd â chael gafael ar ddata newydd o Gymru a ledled y DU, gan wneud data iechyd a data arall ar gael, mewn modd ddiogel ond cyfleus, at ddibenion ymchwil o safon fyd-eang.”
Fel y cydweithrediad diweddaraf mewn cyfres o lawer o gydweithrediadau sylweddol, mae SAIL yn un o bartneriaid BREATHE, sef consortiwm sy’n gweithredu ledled y DU i drawsnewid ymchwil i gyflyrau resbiradol. Ymddiriedir ym Manc Data SAIL i gadw data iechyd resbiradol ledled y DU yn ddiogel a darparu mynediad ato.
Bydd Banc Data SAIL yn galluogi cymuned ymchwil y DU i gael mynediad at y data hwn o bell i’w helpu i wella bywydau pobl sy’n byw gyda chyflyrau resbiradol yn y DU, sy’n benodol bwysig o ystyried achosion COVID-19.
Bydd y cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd yn galluogi Banc Data SAIL i barhau i ddatblygu’i ddata gweinyddol yn ogystal â’i ddata iechyd.
Drwy brif raglenni megis Ymchwil Data Gweinyddol (ADR) Cymru, sef partneriaeth rhwng tair canolfan genedlaethol sy’n rhan o ADR y DU, mae Banc Data SAIL yn helpu i ysgogi newid cadarnhaol o ran polisi cyhoeddus mewn meysydd megis y system gyfiawnder a thai.