Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae arbenigwyr arloesi ym Mhrifysgol Abertawe yn chwarae rôl allweddol wrth wella'r ffordd mae ysbytai yn defnyddio gwybodaeth am gleifion.
Mae staff yn y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd (HTC) yn helpu i ddatblygu e-fyrddau gwyn newydd sbon y gellir eu defnyddio i gofnodi manylion iechyd pwysig tra bydd claf ar y ward.
Mae byrddau gwyn yn eitemau cyfarwydd yn agos i ddesgiau clercod wardiau ond mae ganddynt sawl anfantais, gan gynnwys eglurdeb a chywirdeb yr hyn a gaiff ei ysgrifennu arnynt, yn enwedig os yw manylion wedi cael eu trawsgrifio o ffynonellau eraill. Hefyd, dim ond y rhai hynny sy'n ddigon agos yn gorfforol iddynt sy'n gallu eu darllen, a chan fod angen diweddaru gwybodaeth yn gyflym gan ddibynnu ar statws y claf, gall yr wybodaeth arnynt fynd yn hen yn gyflym.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn gweithio ar brototeip o'r bwrdd gyda chymorth HTC, a sefydlwyd i gydweithio â busnesau a'r GIG i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd ac arloesol.
Esboniodd arweinydd arloesi'r bwrdd iechyd, Dr Tom Powell, fod y byrddau gwyn yn tynnu gwybodaeth cleifion o systemau data'r ysbyty, yn ogystal â mewnbynnu â llaw ddata byw o'r ward, sydd wedyn yn cael ei harddangos ar sgrîn deledu fawr.
Yn wahanol i nodiadau traddodiadol (lle caiff gwybodaeth cleifion ei hysgrifennu ar ddechrau pob dydd), mae ffactorau'r system ddigidol, newydd yn galluogi staff i gyrchu'r system o bell a gollwng cleifion (a'u holl wybodaeth) i mewn i welyau digidol sy'n adlewyrchu golwg amser real o'r ward a'i gynllun.
Yn ogystal ag amrywiaeth o symbolau ac eiconau clyfar sy'n rhoi gwybod i staff am statws gofal cleifion a sawl ffaith arall amdanynt a'u cyflyrau.
Meddai Dr Powell: "Mae gan y rhaglen TG hon botensial enfawr. Mae'r ffordd gyflym o gael gwybodaeth hanfodol lle bynnag y maent. Mae'n cael effaith enfawr ar sut mae timoedd amlddisgyblaethol yn cyfathrebu." "Mae'r fersiwn bresennol wedi derbyn cymeradwyaeth eang, er ei bod hi'n brototeip sy'n cael ei ddatblygu ac mae'n bosib ychwanegu llawer o nodweddion a gwelliannau posib.
"Rydym yn ymchwilio i lawer o'r posibiliadau gyda'n cydweithwyr yn Accelerate i sicrhau bod gan y system yr effaith fwyaf bosib o ran arbedion amser ac effeithiolrwydd."
Meddai arweinydd y prosiect yn HTC, Dr Naomi Joyce: "Rydym wrth ein boddau i fod yn rhan o waith arloesol a fydd wir yn helpu i wella'r gofal mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol yn ei gynnig i gleifion. Edrychwn ymlaen at fod yn rhan o'r gwaith hwn wrth iddo gael ei ddefnyddio at ddibenion defnydd ehangach ledled lleoliadau gofal iechyd Cymru.
"Mae'r e-fyrddau gwyn yn enghraifft berffaith o'r math o brosiect y gallem ni helpu gydag ef drwy gynnig mynediad at gyfleusterau cyfarpar o'r radd flaenaf a thîm cyflwyno mewnol o dechnolegwyr arloesi gyda chefndiroedd yn academia ac ym maes diwydiant."
Mae HTC, ar gampws Singleton Prifysgol Abertawe, yn rhan o raglen Accelerate gwerth £24 miliwn, sef partneriaeth dan arweiniad Hyb y Gwyddorau Bywyd y mae Prifysgolion Abertawe, Caerdydd a'r Drindod Dewi Sant yn ei chefnogi i fireinio a datblygu'r system.
Mae aelodau tîm y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd bellach yn rhan o brosiectau i fynd i'r afael â coronafeirws a chefnogi staff y GIG.