Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Hyfforddiant iaith Saesneg y Brifysgol yn goresgyn y cyfyngiadau symud drwy lansio rhaglen CELTA ar-lein
Mae Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg Prifysgol Abertawe'n parhau i gynnal eu rhaglen CELTA Caergrawnt glodwiw er gwaethaf y cyfyngiadau symud.
Mae naw hyfforddai newydd (a'u cŵn a'u cathod) wedi dechrau eu cwrs yn ddiweddar a byddant yn astudio ar-lein drwy borth pwrpasol, gan gael eu cefnogi'n llawn gan hyfforddwyr profiadol y Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg.
Mae arweinwyr y cwrs yn dweud y gallant gyflwyno pob elfen o'r cwrs yn ddigidol, gan gynnwys yr ymarfer addysgu rhyngweithiol a gyflwynir ar-lein bellach, gyda dosbarthiadau llawn ceiswyr lloches, ffoaduriaid a siaradwyr eraill nad ydynt yn frodorol sy'n byw'n bennaf yn rhanbarth Bae Abertawe.
Mae'r rhan fwyaf o'r hyfforddeion sy'n dysgu sut i addysgu Saesneg fel iaith dramor yn dod o'r ardal leol, gyda thri ohonynt yn cael hyfforddiant drwy enwebiad gan Discovery, prosiect elusennol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.
Ymhlith yr hyfforddeion diweddaraf hynny y mae Emma Burton, o Gastell-nedd, sy'n fyfyrwraig yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ar hyn o bryd.
Meddai Emma, y bydd Elphie, ei chi cymorth, wrth ei hochr wrth iddi ddysgu:
“Penderfynais ddilyn rhaglen CELTA gan fy mod yn astudio ieithoedd modern ac addysgu ac rwyf am addysgu ieithoedd yn y dyfodol, gan addysgu ieithoedd tramor yma neu Saesneg dramor.
“Mae'n destun pleser a rhyddhad bod modd cynnal y cwrs yn ddigidol ac y gallaf ddefnyddio adeg y pandemig yn gynhyrchiol at ddibenion fy ngyrfa yn y dyfodol.”
Meddai Peter Neville, o'r Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg:
“Rydym wedi ymrwymo i gynnal cyrsiau CELTA drwy gydol cyfnod y cyfyngiadau symud, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb fel y bo modd wrth i sefyllfa'r pandemig ddatblygu.”
Mae croeso i chi anfon ymholiadau i elts@abertawe.ac.uk