Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Myfyrwyr meddygol yn ymuno â gweithlu'r GIG yn y frwydr yn erbyn coronafeirws
Mae myfyrwyr meddygol o Brifysgol Abertawe sydd yn eu blwyddyn olaf yn ymuno â staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn y frwydr yn erbyn Covid-19.
Mae'r grŵp cyntaf o fyfyrwyr bellach wedi cael eu sefydlu fel meddygon ar ôl i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol gynnig cyfle cynnar i gofrestru'n amodol i'r rhai sydd am gydio yn eu dyletswyddau.
Dywedodd yr Athro Kamila Hawthorne, Pennaeth Meddygaeth i Raddedigion yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, fod y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn cysylltu'n unigol â'r myfyrwyr yn ystod yr wythnos nesaf er mwyn eu gwahodd i gyflwyno cais cynnar i gofrestru ymlaen llaw.
Meddai: “Mae Ysgol Feddygaeth Abertawe yn falch o ragoriaeth ei myfyrwyr blwyddyn olaf, y mae'r rhan fwyaf ohonynt eisoes wedi gwirfoddoli i weithio'n glinigol yn y GIG fel myfyrwyr meddygol cynorthwyol. Maent yn barod i raddio, gan eu bod wedi pasio eu harholiadau terfynol ar y Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion.”
Dim ond myfyrwyr sydd wedi cwblhau gofynion y rhaglen y maent yn ei hastudio ac sydd wedi pasio'r asesiadau crynodol perthnasol ac elfennau gorfodol y rhaglen fydd yn cael cynnig i gyfranogi, a hynny'n wirfoddol.
Cyfaddefodd y myfyriwr Alex Ruddy fod ganddo ymdeimlad o ddyletswydd nerfus, ond meddai: “Dyma ein galwedigaeth ac, er bod y cyfle wedi cyrraedd ar adeg annisgwyl ac anrhagweladwy, ni fyddwn yn ei anwybyddu.”
Ychwanegodd: “Mae'r pwysau sy'n wynebu'r GIG yn destun pryder i ni i gyd. Efallai'r peth sy'n peri'r pryder mwyaf yw'r pwysau sydd ar y staff erbyn hyn i beryglu eu hunain, a'u hanwyliaid, bob dydd wrth gyflwyno gofal effeithiol i gleifion.
"Fodd bynnag, er ein bod yn dechrau yn y proffesiwn yn ystod pandemig byd-eang, rydym wedi hyfforddi ar gyfer yr eiliad hon ac, yn fwy nag unrhyw ofn neu bryder personol, rwy'n meddwl ein bod i gyd yn awyddus i ymroi i helpu ar yr adeg hon o angen aruthrol.”
Ychwanegodd Zack Balaban: “Ydw, rwy'n graddio rai misoedd yn gynnar, ond dyma'r rheswm pam rwyf wedi bod yn hyfforddi dros y pedair blynedd diwethaf. Rwyf innau a'r myfyrwyr eraill ar fy nghwrs mewn sefyllfa lle gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n GIG – dyma ein galwedigaeth.”
Bydd y recriwtiaid newydd sy'n derbyn gwaith yn y GIG yn feddygon Sylfaen B1 (FY1), gan ddechrau ar Raglen Sylfaen y DU, sy'n pontio rhwng ysgol feddygaeth a hyfforddiant arbenigol/meddygon teulu, ar unwaith. Byddant hefyd yn cael dewis lle y byddant yn gweithio.
Ychwanegodd yr Athro Hawthorne: “Rydym am ddymuno'n dda iddynt yn eu gyrfaoedd fel meddygon yn y dyfodol ac yn gobeithio y byddant yn cadw mewn cysylltiad â ni.”