Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Technocamps wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr STEM newydd yng Nghymru

Mae cyfle gan raglen allgymorth ysgolion arloesol Prifysgol Abertawe ennill gwobr nodedig am ei gwaith yn hyrwyddo amrywiaeth ym myd addysg gwyddoniaeth.
Mae Technocamps, y mae ganddo hybiau ym mhob Prifysgol yng Nghymru, wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau STEM agoriadol Cymru ynghyd â chwmnïau, prosiectau ac unigolion eraill, sy’n hybu ac yn gwneud gwahaniaeth i wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yng Nghymru.
Mae Technocamps wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Rhaglen Addysgol y Flwyddyn STEM, lle bu beirniaid yn edrych am dystiolaeth o fenter sydd naill ai’n mynd i’r afael â bwlch amrywiaeth STEM, prinder sgiliau neu’n ceisio ysbrydoli a chodi dyheadau’r genhedlaeth nesaf. Caiff Technocamps ei gydnabod yn rhagorol yn y tri maes.
Meddai Cyfarwyddwr Technocamps, yr Athro Faron Moller: “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon. Mae cael ein hystyried gyda rhai o’r mentrau mwyaf anhygoel yn y wlad yn wych, ac rydym yn hynod falch o dderbyn cydnabyddiaeth am y gwaith caled rydym yn ei wneud.”
Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar gynnig gweithdai ymarferol i ysgolion uwchradd er mwyn annog astudio cyfrifiadura a phynciau STEM fel pynciau TGAU, Safon Uwch a thu hwnt drwy fentrau amrywiol:
- Mae Cyfrifiadura Iard Chwarae yn gweithio i oresgyn y broblem gyda grwpiau penodol o bobl ifanc – yn arbennig merched – nad ydynt yn ymwneud â phynciau STEM wrth bontio rhwng yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd;
- Mae Technoteach yn cynnig datblygiad proffesiynol a hyfforddiant angenrheidiol i athrawon sy’n gyfrifol am gyflwyno’r cwricwlwm cyfrifiadureg newydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ystyried bod 75% o athrawon TGCh y genedl heb gael hyfforddiant ffurfiol mewn TGCh; ac
- Mae’r Sefydliad Codio yng Nghymru’n cynrychioli braich ddiwydiannol Technocamps sy’n cynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol i fusnesau’r genedl. Mae wedi arwain y ffordd drwy ddarparu tri phrentisiaeth ddigidol, gan ddarparu’r garfan o fyfyrwyr graddedig gyntaf yng Nghymru (a’r unig un) yn 2019.
Bydd pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol bellach yn cael eu hystyried gan banel sy’n arwain y diwydiant o feddyliau entrepreneuraidd Cymru, a chyhoeddir enillydd pob un o’r 15 categori ar Tachwedd 12, 2020.
Meddai’r prif feirniad Louise Bright, sylfaenydd rhwydwaith Menywod Cymru yn STEM: “Rydym yn teimlo bod y cynrychiolwyr ar ein rhestr fer yn cynrychioli rhai o’r sefydliadau ac unigolion mwyaf blaengar sydd ar flaen y gad o ran arloesedd STEM yng Nghymru.”