Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae dau academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith enillwyr diweddaraf medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a gyhoeddwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ddydd Mercher, 20 Mai.
Mae medalau academi genedlaethol Cymru’n cydnabod cyfraniadau rhagorol mewn ymchwil ac ysgolheictod, gan ddathlu llwyddiant yr unigolion a anrhydeddir, a’r sector academaidd yng Nghymru, o brifysgolion i ysgolion.
Medal Menelaus
Yr Athro Nidal Hilal, deiliad Cadair Peirianneg Prosesu Dŵr ym Mhrifysgol Abertawe, yw enillydd Medal Menelaus 2020 Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a ddyfernir i ddathlu rhagoriaeth mewn peirianneg a thechnoleg.
Yr Athro Hilal yw sylfaenydd a chyfarwyddwr y Ganolfan Technolegau Dŵr Uwch ac Ymchwil Amgylcheddol (CWATER). Mae’r Athro Hilal yn arwain y byd ym maes technoleg dihalwyno a philen, gan ymchwilio i ddatblygu datrysiadau i broblemau dŵr byd-eang yn defnyddio technolegau peirianneg uwch.
Wrth dderbyn y fedal, dywedodd yr Athro Hilal: “Mae’n anrhydedd derbyn Medal Menelaus Medal Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
"Mae’r argyfwng dŵr byd-eang wedi dod yn her bwysig yn y 21ain ganrif, sy’n gwaethygu gyda’r cynnydd yn y galw am ddŵr drwy’r byd. Mae fy ymchwil mewn technolegau dihalwyno a thrin dŵr arloesol wedi bod yn hanfodol wrth fwydo byd sychedig ac wedi ein galluogi i fanteisio ar adnoddau helaeth fel dŵr y môr.”
Medal Dillwyn (Dyniaethau a’r Celfyddydau Creadigol)
Dr Gwennan Higham, Uwch-ddarlithydd yn y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, yw enillydd Medal Dillwyn 2020 Cymdeithas Ddysgedig Cymru (Dyniaethau a’r Celfyddydau Creadigol), a ddyfernir i gydnabod rhagoriaeth ymchwil gyrfa gynnar.
Mae Dr Higham yn cynnal ymchwil i ieithoedd lleiafrifol, amlddiwylliannedd a dinasyddiaeth, ar ôl cwblhau doethuriaeth ar ddysgu Cymraeg i fewnfudwyr. Mae hefyd wedi ymchwilio i integreiddio ieithyddol a’r iaith Ffrangeg yn Quebec. Mae gwaith Dr Higham yn archwilio’r berthynas rhwng hunaniaethau ethnig a dinesig a’r angen i ddiffinio a sefydlu dinasyddiaeth Gymreig amlethnig.
Wrth dderbyn y fedal, dywedodd Dr Higham: "Mae’n anrhydedd cael cydnabyddiaeth fel hyn i fy ymchwil. Mae dysgu Cymraeg i fewnfudwyr a’r goblygiadau i ddinasyddiaeth ac amlddiwylliannedd yng Nghymru’n brosiect parhaus a gobeithio y gwelwn ni ddatblygiadau pellach mewn polisi ac ymarfer ymhen blynyddoedd.
“Rwyf i’n wirioneddol ddiolchgar i Adran y Gymraeg a Phrifysgol Abertawe am gefnogi fy nhaith ymchwil hyd yma.”