Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Academyddion yn helpu i roi cipolwg rhithwir i ddisgyblion ar fywyd yn y Brifysgol
Mae academyddion o Brifysgol Abertawe ymhlith arbenigwyr blaenllaw'r byd sy'n rhannu eu gwybodaeth er mwyn helpu disgyblion chweched dosbarth i astudio yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.
Mae staff o bob rhan o'r Brifysgol wedi mynd ati i lunio cynnwys ar-lein – gan amrywio o weminarau i gyfarfodydd Zoom, ac o gynnwys wedi'i deilwra ar gyfer y we i sgyrsiau – er mwyn helpu myfyrwyr Safon Uwch wrth iddynt ddysgu gartref a pharatoi i ddechrau addysg uwch.
Mae'r adnoddau'n rhan o'r fenter Cadw'n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu a gyhoeddwyd gan Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru, sy'n ceisio rhoi'r cyfarwyddyd a'r offer i helpu dysgwyr, arweinwyr, llywodraethwyr, ymarferwyr, rhieni a gofalwyr i ymdrin ag effaith coronafeirws.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phrifysgolion ledled Cymru i gasglu adnoddau priodol a difyr ar gyfer myfyrwyr ym Mlwyddyn 13. Mae’r rhain hefyd yn cynnwys gwybodaeth am fywyd yn y brifysgol.
Mae dolenni'n mynd â myfyrwyr i dudalennau ac adnoddau prifysgolion lle gallant gael mwy o wybodaeth am y pynciau y maent yn bwriadu eu hastudio ym mis Medi neu ddarganfod testunau newydd a diddorol.
Mae tudalen we bwrpasol Llywodraeth Cymru ar Hwb hefyd yn cynnwys dolen i daith rithwir Prifysgol Abertawe a diwrnodau agored rhithwir sydd ar ddod.
Bydd cynnwys amrywiol a llawn dychymyg o'r Ysgol Feddygaeth, Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, yr Ysgol Reolaeth a'r Coleg Peirianneg, y Coleg Gwyddoniaeth, Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, a Choleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi profiad digidol i ddysgwyr ifanc o'r hyn sydd ar gael.
Gwnaeth y Dirprwy Is-ganghellor Addysg, Martin Stringer, ganmol ei gydweithwyr yn y Brifysgol am y ffordd roeddent wedi ateb galw Llywodraeth Cymru am adnoddau.
Meddai: “Mae ein staff eisoes yn rhoi cymorth rhagorol i'n myfyrwyr yn ystod y cyfnod anodd ac ansicr hwn ac rwy'n hynod falch o'r ffordd y maent wedi dod i'r adwy a chynnig adnoddau a chymorth i fyfyrwyr Blwyddyn 13 ledled Cymru.”
Mewn neges arbennig i ddysgwyr, gwnaeth Kirsty Williams gydnabod ei bod yn bosib y byddant yn teimlo'n nerfus ynghylch trosglwyddo i'r brifysgol, yn enwedig heb y tymor olaf yn yr ysgol neu'r coleg i'w paratoi, ond gwnaeth eu hannog i wneud yn fawr o'r adnoddau sydd ar gael.
“Mae llawer o opsiynau sydd wedi'u haddasu'n uniongyrchol i chi. Manteisiwch arnynt a defnyddiwch yr amser hwn yn dda i'ch galluogi i gael dechrau gwych yn y brifysgol. “
Bydd Prifysgol Abertawe'n cynnal ei diwrnod agored rhithwir nesaf i ddarpar fyfyrwyr ddydd Sadwrn, 20 Mehefin.
Gallwch gofrestru ymlaen llaw i gael mynediad at ddigwyddiadau fel y canlynol:
• Cyflwyniadau adrannau a/neu bynciau
• Sesiwn holi ac ateb fyw gyda'n staff
• Sesiwn holi ac ateb fyw gyda'n myfyrwyr
• Teithiau rhithwir byw