Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae'r Ysgrifennydd Hillary Clinton wedi canmol staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe am eu “hymateb critigol” i bandemig Covid-19.
Gwnaeth cyn-ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau ac ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid y sylwadau ddydd Iau 14 Mai yn ystod seminar ar-lein gyda phum myfyriwr o Brifysgol Abertawe sy'n derbyn Ysgoloriaeth Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton.
Meddai: “Rwyf am ddweud fy mod yn gwerthfawrogi popeth y mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn ei wneud yn ystod yr argyfwng hwn. Rwy'n gwybod bod eich myfyrwyr gofal iechyd wedi graddio'n gynnar er mwyn ymuno â rheng flaen y GIG i ymdrin â'r pandemig hwn a bod y Brifysgol wedi cyfrannu at helpu i ddarparu cyfarpar diogelu personol – hyd yn oed i bobl ddigartref yn ogystal â gweithwyr iechyd.”
Gwnaeth hi ddiolch hefyd i'r ymchwilwyr yn Abertawe sydd wedi datblygu system arloesol i lanhau'n sydyn yr ambiwlansys a ddefnyddir i gludo cleifion â coronafeirws, cyn ychwanegu: “Dyma'r math o ymateb sydyn sydd mor allweddol er mwyn helpu'r gymuned ehangach, ac rwyf am ddiolch i bawb yn y Brifysgol am ateb y galw ar yr adeg hollbwysig hon.”
Lansiodd y Brifysgol raglen ysgoloriaeth Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton â chymorth Sky yn 2019, a dewiswyd pum unigolyn eithriadol i gael ysgoloriaeth ôl-raddedig un flwyddyn wedi'i hariannu'n llawn er mwyn astudio yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe.
Nod yr ysgoloriaethau yw cefnogi'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr sy'n ymrwymedig i fynd i'r afael â heriau byd-eang brys, gan gynnwys hawliau a diogelwch plant ar-lein, argyfwng yr hinsawdd a seiberddiogelwch.
Meddai'r Athro Paul Boyle, is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Roedd yn bleser mawr dod â'r Ysgrifennydd Clinton a'n pum ysgolhaig eithriadol ynghyd am sesiwn graff a difyr. Mae'r ffaith ein bod i gyd wedi gallu dod ynghyd ar ffurf rithwir yn ystod y cyfnod anghyffredin hwn yn dangos cryfder ein partneriaeth.”