Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Myfyrwraig o Brifysgol Abertawe'n derbyn Gwobr Diana uchel ei bri i gydnabod ei gwaith gwirfoddol
Mae Isabel Francis, sy'n astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ennill yr anrhydedd uchaf sydd ar gael i rywun ifanc rhwng naw oed a 25 oed am weithredoedd cymdeithasol neu ymdrechion dyngarol – Gwobr Diana.
Bydd Isabel, sy'n 22 oed, bellach yn ymuno â Rhestr Anrhydedd Gwobr Diana ar y cyd â phobl ifanc eraill o bedwar ban byd sydd wedi cael eu cydnabod am fynd gam ymhellach yn eu bywyd beunyddiol i greu a chynnal newid cadarnhaol.
Ochr yn ochr â'i hastudiaethau, mae’r cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Cwmtawe wedi treulio fwy na 750 o oriau'n gwirfoddoli yng Nghlinig y Gyfraith, sef gwasanaeth ym Mhrifysgol Abertawe sy'n cynnig cyngor cyfreithiol cychwynnol am ddim. Hefyd, gwnaeth sylfaenu darpariaeth allgymorth y Clinig ym Manc Bwyd Eastside yn Abertawe ac mae wedi gweithio i sicrhau bod y bobl sy'n defnyddio'r banc bwyd yn cael y cyngor y mae ei angen arnynt ac yr ymdrinnir â'u problemau'n llawn drwy ddod ag asiantaethau gwahanol at ei gilydd i gydweithio.
Meddai'r Athro Richard Owen, cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith yn Abertawe, a enwebodd Isabel am y wobr: “Mae Isabel yn llawn haeddu Gwobr Diana. Mae hi wedi dangos ymrwymiad aruthrol i helpu pobl y mae angen cyngor cyfreithiol arnynt, gan gynnwys gwirfoddoli yn ystod ei gwyliau ac ar y dyddiau pan nad yw'n gweithio.
“Mae ei chyfraniad at Glinig y Gyfraith yn Abertawe wedi bod yn rhagorol wrth iddi gynghori pobl yn ystod argyfyngau, yn ogystal â rhoi tystiolaeth i Senedd Cymru ar faterion sy'n ymwneud â mynediad at gyfiawnder, ac arwain y broses o sefydlu canolfannau allgymorth newydd ar gyfer y Clinig. Bydd esiampl Isabel yn ysbrydoli llawer o fyfyrwyr i efelychu ei chyflawniadau.”
Wrth dderbyn Gwobr Diana, meddai Isabel: “Mae derbyn Gwobr Diana yn anrhydedd ac yn fraint. Pan ddechreuais fy ngradd yn y gyfraith yn wreiddiol, ni fyddwn byth wedi breuddwydio y byddwn yn derbyn gwobr mor uchel ei bri ac mae'n rhagori ar fy nisgwyliadau. Pwy a ŵyr ble byddwn i heb gefnogaeth Clinig y Gyfraith, ac rwy'n gobeithio y gallaf barhau i wneud gwahaniaeth i'r bobl y mae angen cymorth fwyaf arnynt.
“Yn y dyfodol, rwy'n gobeithio bod yn gyfreithiwr, a byddaf mewn sefyllfa i barhau â'm gweithgareddau di-dâl a helpu'r bobl na allant gael mynediad at y system gyfreithiol.”
Bydd Isabel bellach yn cael gwahoddiad i ymuno â gweminar ar weithredu cymdeithasol lle gall gysylltu ag enillwyr eraill y wobr, a bydd yn cael y cyfle i fod yn rhan o rwydwaith cyn-fyfyrwyr sydd â rhaglen ar gyfer datblygu enillwyr. Mae hefyd wedi cael gwahoddiad gan yr Iarll Spencer, brawd Diana, Tywysoges Cymru, i ymweld â Thŷ Althorp, sef cartref y Dywysoges Diana yn ystod ei phlentyndod.