Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Meddygon newydd yn cael y clodydd yn nathliad graddio rhithwir cyntaf y Brifysgol erioed
Daeth mwy na 150 o gyn-fyfyrwyr yn ôl at ei gilydd i ddathlu eu hamser yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe mewn seremoni raddio rithwir unigryw.
Ymunodd y cyfranogwyr – ar y cyd â rhai rhieni balch – ag uwch-aelodau o staff ar ffurf rithwir ar gyfer y seremoni raddio gyntaf erioed a gynhaliwyd gan y Brifysgol drwy gynhadledd fideo.
Mae llawer ohonynt eisoes yn gweithio fel meddygon iau mewn ysbytai ar ôl cael caniatâd i ymuno â'r GIG yn gynnar pan oedd pandemig Covid-19 yn ei anterth.
Ond, er gwaethaf y pwysau sy'n deillio o'u gyrfaoedd newydd, roeddent yn awyddus i weld ei gilydd eto ar ôl treulio'r pedair blynedd diwethaf yn astudio gyda'i gilydd. Bwriadwyd i'r digwyddiad gyfuno elfennau o seremoni raddio draddodiadol ag anffurfioldeb y cyfyngiadau symud.
Dywedodd Is-ganghellor y Brifysgol, Paul Boyle, fod y garfan wedi arloesi mewn sawl agwedd yn ystod eu hamser yn Abertawe, gan gynnwys graddio'n gynnar.
Meddai: “Rydym yn falch iawn o'r cyfraniad a wnaed gennych i gyd ac o'r ffaith eich bod chi wedi gorfod gorffen eich astudiaethau'n gynnar er mwyn gwneud cyfraniad yn ystod yr argyfwng hwn.
“Rydym yn gwerthfawrogi'r holl waith a wnaed gan y myfyrwyr a'r ffaith bod yr Ysgol Feddygaeth wedi bod yn gweithio'n galed dros ben er mwyn ein helpu i oroesi'r cyfnod anodd iawn hwn.”
Cyflwynwyd y seremoni gan yr Athro Kamila Hawthorne, pennaeth Meddygaeth i Raddedigion, a'i disgrifiodd fel “cyfle gwych i oedi a myfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd i chi a'r hyn sydd o'ch blaen”.
Ychwanegodd: “Llongyfarchiadau mawr i chi i gyd a chroeso cynnes iawn i'r proffesiwn.”
Agorodd y seremoni raddio gyda cherddoriaeth gan un o'r graddedigion, Alessia Waller, a chafwyd cerddi hefyd gan Gyfarwyddwr y Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion, Paul Jones, ac un o'r graddedigion eraill, Steven Hastings. Ef oedd enillydd y wobr i fyfyrwyr a gynigiwyd eleni gan Sefydliad Meddygol Dewi Sant, yr elusen a sefydlwyd er mwyn cefnogi gwaith arloesol yr Ysgol Feddygaeth ym meysydd ymchwil feddygol ac addysg.
Cynigiodd yr Athro Julian Hopkin, cadeirydd ymddiriedolwyr y Sefydliad a Rheithor yr Ysgol Feddygaeth, ei longyfarchiadau ei hun, ac ychwanegodd: “Mae meddygaeth yn gwobrwyo meddygon galluog a gofalgar yn fawr. Dyma eich eiliad chi.”
Cyn tyngu Llw'r Meddygon, a ddarllenwyd gan Latif Miah a Henry Hobson, pennaeth yr Ysgol Feddygaeth, talodd yr Athro Keith Lloyd ei deyrnged ei hun i'r meddygon newydd.
Dywedodd wrthynt: “Rydych wedi graddio mewn proffesiwn sydd wedi wynebu llawer o heriau dros ganrifoedd lawer, a phob tro mae hynny wedi digwydd, mae ein rhagflaenwyr wedi mynd i'r afael â'r heriau hynny drwy roi gwyddoniaeth a chrefft meddygaeth ar waith, fel y byddwn ni'n ei wneud yn awr.
“Cadwch yn ddiogel a chofiwch fod gennym gymuned gref yma. Ac os byddwn yn helpu ein gilydd, bydd hynny o fudd mawr. Mae gennych eich cymuned yma yn Abertawe ac yn awr rydych eisoes yn rhan o gymuned fyd-eang o feddygon.
“Fel eich teuluoedd a'ch ffrindiau, rydym yn anhygoel o falch ohonoch. Mae angen meddyliau disglair pobl fel chi ar y byd.”
Gan ddod â'r digwyddiad i ben, meddai'r Athro Hawthorne: “Wrth ddechrau fel graddedigion, rydych wedi cyrraedd y pwynt hwn drwy lwybrau gwahanol iawn ac rwy'n gwybod eich bod wedi wynebu caledi a phwysau a'ch bod wedi gorfod gweithio'n galetach nag y byddech wedi credu y byddai modd i chi ei wneud erioed.
“Rydych wedi dangos cryfder, gwydnwch a hyd yn oed dewrder mawr wrth ymuno â'r proffesiwn ar adeg mor unigryw a pheryglus o bosib.
“Rwy'n siŵr y byddwch yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at ofal iechyd, beth bynnag y byddwch yn penderfynu ei wneud yn ystod eich gyrfaoedd, ac rwy'n gwybod bod y rhaglen Meddygaeth i Raddedigion wedi rhoi'r sylfaen i'ch helpu i wneud beth bynnag yr hoffech ei wneud.”
Yn ystod y seremoni, dangoswyd enwau Dosbarth Meddygaeth MBBCh 2020 hefyd ac anfonwyd cerdyn electronig at bob myfyriwr, yn ogystal â dolen i wefan bwrpasol â negeseuon cadarnhaol gan aelodau o staff.
Nid hwy fydd yr unig fyfyrwyr i ddathlu diwedd eu hastudiaethau yn Abertawe o bell – bydd y Brifysgol yn cynnal dathliad rhithwir ar gyfer graddedigion ddydd Mercher 22 Gorffennaf.