Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Prifysgol Abertawe ar y rhestr fer yng Ngwobrau Prifysgolion 2020 The Guardian
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Profiad Gorau i Fyfyrwyr yng Ngwobrau Prifysgolion 2020 The Guardian.
Roedd cynnig y Brifysgol yn canolbwyntio ar greu ‘Canolfan Galw Heibio ar gyfer Sesiynau Cyllid’ – dyma fan diogel i gynnal sesiynau unigol rhwng myfyrwyr a staff cyllid, yn dilyn adborth blaenorol gan fyfyrwyr a dynnodd sylw at yr anawsterau roeddent yn eu hwynebu wrth ddeall natur gymhleth adrannau cyllid mewn sefydliadau addysg uwch.
Mae Prifysgol Abertawe'n falch o ddarparu amgylchedd diogel, cynhwysol a chefnogol i fyfyrwyr ac mae'r ganolfan galw heibio hon wedi creu amgylchedd cyfrinachol a defnyddiol lle gall myfyrwyr drafod eu pryderon am ffioedd dysgu mewn modd cyfrinachol.
Mae'r ymagwedd hon wedi sicrhau bod y Brifysgol yn gwireddu ei gweledigaeth strategol ac yn creu profiad ysbrydoledig i fyfyrwyr. Mae'r tîm wedi helpu'n sylweddol i liniaru pryderon ariannol a galluogi myfyrwyr i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar les myfyrwyr ac mae llai o fyfyrwyr yn gadael oherwydd caledi ariannol.
Ers iddi gael ei lansio, mae'r Ganolfan Galw Heibio wedi bod yn hynod lwyddiannus, gan gael ei chanmol i'r cymylau gan fyfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr a gwasanaethau cymorth eraill yn y Brifysgol. Mae'r fenter hon wedi bod o fudd i fyfyrwyr, yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar aelodau o staff a gwella dulliau cyfathrebu rhyngddisgyblaethol ac arferion gwaith yn sylweddol. Mae wedi newid rôl yr adran cyllid yn y Brifysgol ac amgyffred pobl ohoni, a hynny'n barhaol.
Bydd Prifysgol Abertawe'n mynd benben â Sheffield Hallam a Phrifysgol Caeredin pan gyhoeddir enillwyr y gwobrau yn yr hydref.
Meddai Sarah Jones, cyfarwyddwr cyllid Prifysgol Abertawe:
“Rwyf wrth fy modd bod llwyddiant Canolfan Galw Heibio ar gyfer Sesiynau Cyllid y Tîm Incwm wedi cael ei gydnabod drwy gyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o wobrau prifysgolion The Guardian. Gwnaeth aelodau'r tîm weld cyfle i wella'r gwasanaeth roeddent yn ei ddarparu i fyfyrwyr a datblygu ateb ystyriol iawn sydd wedi bod o fudd gwirioneddol i bawb.
“Mae'n enghraifft wych o'r ffordd y gall grŵp o unigolion llawn ymrwymiad sy'n meddu ar weledigaeth ar gyfer rhywbeth gwell newid pethau yn y Brifysgol. Mae pawb yn yr adran yn falch o'u cyflawniad hyd yn hyn, a hynny'n haeddiannol, ac rwy'n dymuno'n dda i'r tîm ar gyfer y rownd derfynol yn yr hydref.”