Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Tîm arloesi'r Brifysgol yn helpu i ddatblygu adnodd dementia o'r radd flaenaf
Mae arbenigwyr arloesi ym Mhrifysgol Abertawe'n helpu i fireinio dyfais o'r radd flaenaf sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth allweddol i bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr.
Mae staff y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd wedi ymuno â'r cwmni CPR Global Technology yn Abertawe i weithio ar ei oriawr glyfar Guardian II. Mae'r oriawr yn cael ei gwisgo ar yr arddwrn ac mae'n cynnwys amrywiaeth o dechnolegau, gan gynnwys system leoli fyd-eang (GPS) ac adnodd Wi-Fi i olrhain lleoliad, botwm SOS, cyfleuster ffonio dwy ffordd a'r gallu i fonitro cyflymder y galon.
Mae'r ddyfais, sy'n ceisio helpu defnyddwyr i aros mewn amgylchoedd cyfarwydd am gyhyd â phosib, eisoes wedi profi'n boblogaidd gyda theuluoedd.
Nawr, mae CPR a'r ganolfan yn cydweithio i archwilio'r swyddogaethau a'r dechnoleg sydd wedi'u hintegreiddio yn y ddyfais, gyda'r nod o amlygu agweddau lle gellid ei defnyddio i wella gofal dementia hyd yn oed ymhellach.
Mae'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd yn ardal y labordai ar Gampws Singleton y Brifysgol ac mae ei thîm o staff ymroddedig yn gweithio gyda busnesau a'r GIG i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau gofal iechyd arloesol a fydd yn creu gwerth economaidd arhosol yng Nghymru.
Amcangyfrifir bod 850,000 o bobl yn byw gyda dementia yn y DU ac mae'r Strategaeth Ddementia Genedlaethol yn annog arloeswyr i ddatblygu technolegau a all helpu teuluoedd i ofalu am eu hanwyliaid a'u cefnogi.
O ganlyniad i gydweithrediad y ganolfan â CPR, mae aelodau o staff wedi bod yn archwilio cyfleoedd posib i ddefnyddio'r ddyfais at ddibenion ymchwil, datblygu ac arloesi, ar ben ei buddion economaidd-gymdeithasol. Mae hyn wedi cynnwys dadansoddi adolygiadau o'r ddyfais gan gwsmeriaid.
Meddai un mab diolchgar i dad sydd bellach yn gwisgo'r ddyfais: “Mae fy nhad yn hen ac ni all ddefnyddio ffôn symudol ond roedd wrth ei fodd y gallai ddefnyddio'r oriawr i ffonio pobl ac ateb galwadau, yn enwedig pan oedd y wyrion a'r wyresau'n dweud ei bod hi'n ‘oriawr ysbïwr’. Mae'r GPS yn wych ar gyfer dilyn ei drywydd os bydd yn mynd ar grwydr.”
Disgrifiodd Dr Daniel Rees o'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd y cydweithrediad fel cyfle cyffrous i weithio gyda chwmni bywiog, amrywiol ac arloesol.
Meddai: “Gallwn weld cryn botensial i ddefnyddio technolegau fel yr oriawr glyfar hon i gefnogi gofal cleifion â dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
“Mae'r cydweithrediad hefyd wedi rhoi cyfle i ni archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio technolegau sydd eisoes yn bodoli mewn ffyrdd newydd – gan gynnwys y galedwedd, y feddalwedd a'r isadeiledd a'r cyfryngau technoleg cadarn sy'n ofynnol.
“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio, gan ganolbwyntio ar gyflwyno buddion cymdeithasol ac economaidd drwy ddefnyddio technoleg ddigidol arloesol.”
Ychwanegodd Chelsea Davies, rheolwr gwerthu a marchnata CPR Technology: “Technoleg yw'r model newydd ar gyfer gofal ac rydym wedi bod yn cynnig atebion ymarferol i broblemau pob dydd ers mwy na 10 mlynedd, gan rymuso pobl i fyw bywydau annibynnol a bodlon.
“Bu'n gyffrous iawn gweithio gyda Chanolfan Technoleg Gofal Iechyd Cyflymu ar ein prosiect diweddaraf, gan gyfuno dealltwriaeth diwydiant â'r byd academaidd, ac mae wedi rhoi cipolwg gwych ar yr hyn yr hoffai pobl ei gael a'r hyn y mae ei angen arnynt, yn seiliedig ar yr ymchwil.
“Mae'r profiad wedi bod yn amhrisiadwy i CPR Global Tech ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithredu â'r ganolfan.”
Mae'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd yn rhan o'r rhaglen Cyflymu. Dyma bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a arweinir gan yr Hwb Gwyddorau Bywyd sy'n defnyddio arbenigedd clinigol, academaidd a diwydiannol er mwyn datblygu a chyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau newydd, arloesol yn y system iechyd a gofal yng Nghymru.
Mae Cyflymu yn cael ei gyd-ariannu gyda £24 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), trwy Lywodraeth Cymru.