Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Prosiect yn datgelu sut gallai algâu fod yn allweddol wrth gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy

Mae prosiect arloesol gan Brifysgol Abertawe'n defnyddio mân algâu i archwilio sut i ailddefnyddio gwastraff a chynhyrchu mwy o fwyd ar yr un pryd.
Mae mân algâu'n gelloedd ffotosynthetig microsgopig a geir yn naturiol mewn cefnforoedd a llynnoedd. Fodd bynnag, mae gwyddonwyr yn Abertawe bellach yn defnyddio ffynhonnell fwy anghyffredin i'w tyfu – maetholion dieisiau o wastraff bwyd.
Mae safleoedd sy'n trin gwastraff bwyd yn defnyddio proses treulio anaerobig er mwyn cynhyrchu ynni. Mae'r broses hon yn defnyddio'r carbon mewn gwastraff er mwyn cynhyrchu tanwydd nwyol a all gynhyrchu trydan.
Mae treulio anaerobig hefyd yn cynhyrchu ffynhonnell gyfoethog o faetholion. Gellir defnyddio rhai ohonynt ar dir amaethyddol fel gwrtaith byw ond mae peryglon llygru'n golygu bod cyfyngiadau caeth ar faint y gellir ei ddefnyddio.
Fodd bynnag, mae algâu'n manteisio ar y maetholion hyn gan eu defnyddio i greu protein y gellir ei fwydo i anifeiliaid fferm yn lle protein soia llai cynaliadwy.
Mae'r prosiect ALG-AD, a arweinir gan Goleg Gwyddoniaeth y Brifysgol, yn ymchwilio i'r broses gylchol hon, sy'n defnyddio maetholion er mwyn creu adnodd gwerthfawr arall.
Meddai'r Athro Carole Llewellyn, sef y prif ymchwilydd: “Rydym yn gwybod bod angen dod o hyd i atebion drwy'r economi gylchol er mwyn arafu neu wrthdroi effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ein planed ac mae'r gwaith rydym yn ei wneud yn y maes hwn yn wirioneddol arloesol.
“Ar y cyd â'n partneriaid ar y prosiect, rydym eisoes wedi datblygu'r dechnoleg i ddefnyddio maetholion gwastraff i greu algâu ar dri safle yn Ewrop.”
Maent bellach ar fin cynnal profion porthiant gyda chydweithwyr yn Ffrainc er mwyn profi'r algâu trin fel dewis amgen i brotein soia.
Mae ALG-AD yn brosiect pedair blynedd a ariennir gan Interreg NWE sy'n dod â gwyddonwyr, peirianwyr a phartneriaid diwydiannol at ei gilydd o 11 o sefydliadau mewn pedair gwlad yng ngogledd-orllewin Ewrop.
Ychwanegodd yr Athro Llewellyn: “Mae mân algâu eisoes yn rhan hanfodol o ecosystem y blaned, ac mae ein gwaith yn archwilio ffyrdd arloesol o ddefnyddio'r micro-organebau ffotosynthetig anhygoel hyn i gynnig atebion i heriau byd-eang.”
Y nod yw i safleoedd ym mhob rhan o ogledd-orllewin Ewrop fabwysiadu dull gweithredu'r tîm, gan leihau perygl llygru pan gaiff nitradau eu gwasgaru ar dir yn ogystal â chynnig dewis amgen i soia sy'n gynaliadwy ac sydd wedi'i dyfu'n lleol. Caiff adnoddau a data eu paratoi i gefnogi rhanddeiliaid yn y misoedd i ddod.
Mae tîm ALG-AD ar gael i rannu gwybodaeth a gall Rheolwr y Prosiect, Louise Hall, gynnig rhagor o fanylion.