Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Cydnabyddiaeth i fyfyrwyr iechyd a meddygaeth Abertawe am wirfoddoli yn ystod argyfwng Covid-19
Bydd oddeutu 1,000 o fyfyrwyr gofal iechyd a meddygaeth sydd wedi gwirfoddoli yn ystod pandemig Covid-19 yn derbyn tocyn anrheg am fusnes lleol, diolch i gyfraniad gwerth £27,500 gan Santander, drwy'r fenter Prifysgolion Santander.
Y nod yw gwobrwyo ymdrechion gwrol myfyrwyr, ac ar yr un pryd helpu i gynnal busnesau lleol drwy roi arian yn ôl yn yr economi.
Mae'r fenter Prifysgolion Santander yn bartner i Brifysgol Abertawe ar amrywiaeth o fentrau, gan gynnwys y cynllun llogi beiciau ar draws y ddinas.
Gwirfoddolodd dros 1,000 o fyfyrwyr o Ysgol Feddygaeth a Choleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol i helpu cydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd:
• Cafodd myfyrwyr meddygaeth yn eu blwyddyn olaf eu hymsefydlu'n feddygon ar ôl i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol gynnig cyfle cynnar iddynt gofrestru'n amodol
• Lleolwyd 662 o fyfyrwyr nyrsio yn y byrddau iechyd
• Aeth holl fyfyrwyr trydedd flwyddyn gradd bydwreigiaeth y Brifysgol ati i gynorthwyo bydwragedd cymwysedig
• Cofrestrodd o leiaf 101 o fyfyrwyr parafeddyg i weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Mae'r cyfraniad yn galluogi myfyrwyr i ddewis tocyn anrheg, gwerth £24.50, am unrhyw un o chwe busnes lleol:
• The Gower Coffee Company
• Caffi a Siop Fwydydd Arthur Neave
• Fulton Outfitters (Tŷ Fulton)
• Joe’s Ice Cream
• Gofal Croen Organig Natur
• Castell Howell
Cyflwynir y tocyn anrheg i'r myfyrwyr mewn cerdyn cyfarch pwrpasol wedi'i ddylunio gan That Mum Moment, er mwyn diolch iddynt am eu hymdrechion.
Meddai Cyfarwyddwr Prifysgolion Santander, Matt Hutnell:
“Mae prifysgolion ledled y DU, megis Prifysgol Abertawe, yn gwneud gwaith gwych i gyfrannu at ymdrech y DU i ymdrin â phandemig Covid-19, felly rydym yn falch o barhau i gefnogi myfyrwyr a chymunedau lleol yn ystod y cyfnod difrifol hwn.”
Meddai Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yr Athro Keith Lloyd:
“Rydym yn falch iawn o'n holl fyfyrwyr. Mae angen pobl ddisglair a gofalgar fel y rhain ar y byd. Maent wedi dangos cryfder mawr, gwydnwch a hyd yn oed dewrder drwy helpu ein GIG ar adeg mor unigryw a pheryglus.”
Meddai Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, yr Athro Ceri Phillips:
“Rydym yn falch iawn o ymrwymiad ac aberth llawer o'n myfyrwyr yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd wrth helpu'r GIG yn ystod y pandemig. Maent yn destun balchder iddynt eu hunain, y Coleg a'r Brifysgol.”
Sylwadau gan rai o'r busnesau lleol sy'n cymryd rhan yn y cynllun:
Joe’s Ice Cream: “Diolch i bob un o fyfyrwyr rheng flaen Prifysgol Abertawe am eich holl waith caled a'ch ymroddiad. Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau eich anrheg haeddiannol iawn.”
Natur: “Rydym mor falch o gymryd rhan mewn prosiect mor hyfryd ar y cyd â Phrifysgol Abertawe a’r fenter Prifysgolion Santander. Dyma ffordd o ddiolch i fyfyrwyr rheng flaen am eu gwaith caled a chefnogi busnesau lleol – gwych!
Castell Howell: “Mae'n wych cael ein cynnwys mewn grŵp bach o fusnesau lleol lle gall pob un o'r myfyrwyr wario eu tocyn anrheg 'Diolch'. Rydym yn edrych ymlaen at drefnu eich anrhegion drwy ein gwasanaeth clicio a chasglu. Diolch!’