Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Gwasanaethau osteopatheg yn ailddechrau yn Academi Iechyd a Llesiant Abertawe
Bydd Academi Iechyd a Llesiant Prifysgol Abertawe'n dechrau darparu gwasanaethau osteopatheg i'r cyhoedd eto o ddydd Llun 7 Medi.
Mae'r Academi Iechyd a Llesiant ar Gampws Parc Singleton y Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau fforddiadwy a hyblyg i gefnogi cymuned de-orllewin Cymru ac ategu'r gwasanaethau a ddarperir gan y GIG.
Gall y tîm o fyfyrwyr a staff osteopatheg helpu i ymdrin ag amrywiaeth eang o gyflyrau, gan gynnwys poen yn y cefn, anaf straen ailadroddus, arthritis, anafiadau chwaraeon, poen yn y gwddf a phoen yn ystod beichiogrwydd.
Cyflwynwyd mesurau iechyd a diogelwch helaeth yn yr Academi Iechyd a Llesiant er mwyn sicrhau y gall pob claf fanteisio'n ddiogel ar y gwasanaethau. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys y canlynol:
- Proses sgrinio dros y ffôn i gleifion newydd
- Glanhau pob ardal yn yr Academi'n drwyadl ac yn rheolaidd
- Uchafswm o ddau unigolyn yn yr ystafell aros ar unrhyw adeg
- Gweithdrefnau i sicrhau bod pobl yn cadw pellter diogel a lleihau cyswllt corfforol
- Taliadau digyffwrdd a rhagdaliadau
- Staff a myfyrwyr yr Academi'n gwisgo cyfarpar diogelu personol
- Mynnu bod cleifion yn dod â'u masg wyneb a'u lluniaeth eu hunain
- Cyflwyno systemau unffordd a chyfleusterau diheintio dwylo
Bydd gwasanaethau osteopatheg yr Academi ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Cyhoeddir manylion ailagor gwasanaethau eraill yn y clinig yn fuan.
Meddai Cyfarwyddwr yr Academi Iechyd a Llesiant, Julia Pridmore: “Ar ran y tîm osteopatheg a phawb yn yr Academi Iechyd a Llesiant, mae'n bleser gennyf groesawu ein myfyrwyr osteopatheg a'n cleifion yn ôl.
“Mae'n destun cyffro i allu ailddechrau ein gwasanaethau osteopatheg o'r radd flaenaf a arweinir gan fyfyrwyr ac rydym yn falch y gallwn barhau i chwarae ein rhan wrth gefnogi lles ein cymuned yn yr Academi Iechyd a Llesiant.
“Yn bersonol, rwy'n ddiolchgar iawn i'n timau gwasanaeth academaidd, clinigol a phroffesiynol am eu gwaith caled a'u hymrwymiad i sicrhau ein bod yn barod iawn i gyflwyno gwasanaeth proffesiynol o safon mewn amgylchedd diogel o ran Covid-19.
Yn ddiweddar, mae aelodau staff yr adran osteopatheg wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth mewn Addysgu fel Tîm gan y Brifysgol ar ôl i’w gwaith addysgu ardderchog gael ei enwebu gan fyfyrwyr.
I drefnu apwyntiad: e-bostiwch osteopathclinic@abertawe.ac.uk