Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Modiwl newydd yn galluogi myfyrwyr peirianneg i weithio o bell gyda thîm yn Nhecsas
Mae grŵp o fyfyrwyr peirianneg wedi dechrau modiwl a gynhelir gan Brifysgol A&M Tecsas, gan weithio o bell gyda pheirianwyr eraill dramor, diolch i fenter newydd gan y Coleg Peirianneg, sy'n seiliedig ar gysylltiadau Prifysgol Abertawe â Thecsas.
Mae'r pum myfyriwr yn dilyn modiwl o'r enw Dylunio Peirianyddol Byd-eang, sy'n rhan o'u prosiect trydedd flwyddyn. Maent yn astudio'r gwaith theori perthnasol ar-lein ac yn ymuno o bell â darlithoedd byw a rhyngweithiol a ddarlledir o Decsas.
Maent hefyd newydd ddechrau gwaith ar heriau dylunio i dimau gyda myfyrwyr ym Mhrifysgol A&M Tecsas, gan ddefnyddio cyfryngau ar-lein er mwyn cydweithredu.
Bob blwyddyn, mae'r heriau dylunio'n wahanol ac maent yn cyd-fynd â datrys problemau diwydiannol neu ddatblygu prosiectau ymchwil y brifysgol. Yn ystod blwyddyn academaidd 2019/20, canolbwyntiodd y myfyrwyr ar gynaliadwyedd, gan ddylunio “adeiladau ynni gweithredol” ar gyfer gwledydd gwahanol yn seiliedig ar ddyluniadau a gafodd eu creu a'u hadeiladu yn Abertawe.
Eleni, dosberthir myfyrwyr Abertawe rhwng tri thîm rhyngwladol gwahanol sy'n datrys heriau sy'n ymwneud â chasglu a storio carbon, maes ymchwil allweddol yn fyd-eang i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae'r heriau dylunio'n dod i ben ym mis Rhagfyr 2020, pan fydd yn rhaid i fyfyrwyr gyflwyno adroddiad diwedd prosiect a rhoi cyflwyniad am eu gwaith.
Mae Prifysgol A&M Tecsas ymysg goreuon yr Unol Daleithiau, gydag oddeutu 70,000 o fyfyrwyr. Mae'n rhoi pwyslais mawr ar gysylltiadau tramor, megis ei phartneriaeth hirdymor â Phrifysgol Abertawe, sydd o fudd i ymchwilwyr a myfyrwyr fel ei gilydd.
Mwy o wybodaeth am y Coleg Peirianneg
Er bod pandemig Covid-19 wedi cyflymu'r ymchwil i ffyrdd newydd o addysgu a chydweithredu, roedd tîm y Coleg Peirianneg eisoes wedi bod yn datblygu'r fenter hon, ymysg eraill. Mae'r Coleg wedi sefydlu stiwdio dysgu gweithredol ar gampws sy'n ei gwneud yn haws i fyfyrwyr Abertawe weithio gyda thimau eraill mewn mannau eraill yn y DU a thramor.
Yr Athro Paul Holland a'r Athro Enrico Andreoli o'r Coleg Peirianneg sy'n cyd-arwain y modiwl peirianneg, gydag academyddion eraill yn mentora pob un o fyfyrwyr Abertawe.
Meddai Ben Woods, un o fyfyrwyr peirianneg Abertawe a wnaeth helpu i dreialu'r modiwl yn 2019/20:
“Mae'r modiwl yn cyd-fynd â'm modiwl EG-353, y prosiect unigol i fyfyrwyr trydedd flwyddyn, gan fy ngalluogi i fagu sgiliau ychwanegol wrth weithio ar draws ffiniau diwylliannol, amser, cenedlaethol ac amlddisgyblaethol. Mae'r modiwl yn rhoi cyfle i mi hybu fy rhagolygon gyrfa yn y dyfodol drwy roi pwynt gwerthu gwahanol i mi.”
Meddai'r Athro Paul Holland:
“Dyma gyfle i unrhyw un â diddordeb mewn mynd i'r afael â heriau peirianyddol byd-eang ar y cyd â myfyrwyr o wledydd eraill. Mae'n rhoi cyfle hefyd i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o wahaniaethau cyfathrebu rhyngddiwylliannol, a sut i gydweithio'n effeithio â phobl o gefndiroedd gwahanol.”
Meddai Dr Maria Alves, Uwch-gyfarwyddwr Rhaglenni Peirianneg Byd-eang ym Mhrifysgol A&M Tecsas:
“Mae cynnal prosiectau rhyngwladol a rhoi cyfle i fyfyrwyr o wledydd gwahanol ryngweithio'n elfen allweddol o'r modiwl byd-eang hwn. Felly, yn ogystal â bod yn bleser, mae'n fanteisiol bod Coleg Peirianneg Abertawe'n bartner swyddogol i ni. Gwnaethom dreialu'r cydweithrediad hwn yr hydref diwethaf a gweld effaith gadarnhaol iawn ar ein myfyrwyr. Rydym yn cydweithio eto yn ystod yr hydref hwn ac yn edrych ymlaen bellach at bartneriaeth fwy ffurfiol a chynyddol yn y modiwl Dylunio Peirianyddol Byd-eang. Mae cydweithio ar raglenni fel hyn yn ffordd o baratoi ein myfyrwyr i arwain y diwydiant byd-eang hwn a'r gymdeithas.”
Ychwanegodd Dr Caroline Coleman Davies, rheolwr rhaglen Tecsas Prifysgol Abertawe:
“Mae'r cydweithrediad hwn â Phrifysgol A&M Tecsas yn dangos gwerth ein rhaglen Tecsas a'r ffordd y mae'n creu cyfleoedd a phrofiadau newydd i'n myfyrwyr.”