Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mwy o broblemau iechyd meddwl ymhlith gofalwyr teulu yn ystod y cyfyngiadau symud
Roedd cyfraddau problemau iechyd meddwl pobl sy'n gofalu am blant ac oedolion ag anabledd deallusol yn eu teulu hyd at 10 o weithiau'n uwch yn ystod y cyfyngiadau symud nag yn achos rhieni heb y cyfrifoldebau hynny, yn ôl astudiaeth newydd.
Roeddent bum gwaith yn fwy tebygol o adrodd am orbryder difrifol, a rhwng pedwar a phum gwaith yn fwy tebygol o adrodd am iselder sylweddol, o'u cymharu â phobl nad ydynt yn gyfrifol am ofalu am blant ag anabledd deallusol.
Mae'r heriau sy'n wynebu pobl sy'n gofalu'n anffurfiol – mamau, gan amlaf – am blant ac oedolion ag anabledd deallusol wedi cael eu diystyru i raddau helaeth yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, cynhaliodd tîm ymchwil astudiaeth ar-lein gyda'r nod o ddogfennu eu hiechyd meddwl. Dan arweiniad yr Athro Paul Willner o Brifysgol Abertawe, cyfrannodd ymchwilwyr o Abertawe a chydweithwyr o brifysgolion Warwick, Caint a Birmingham, yn ogystal â The Challenging Behaviour Foundation, at y prosiect.
Dadansoddodd y tîm 244 o arolygon ar-lein, a gwblhawyd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud caeth gan bobl sy'n gofalu am oedolion ag anabledd deallusol, plant ag anabledd deallusol, a grŵp cymhariaeth llawn pobl sy'n gofalu am blant heb anabledd deallusol.
Roedd mwy na 90 y cant o'r gofalwyr a gymerodd ran yn fenywod. Roedd 11 o'r aelwydydd wedi cael profiad uniongyrchol o COVID-19.
Roedd y casgliadau allweddol fel a ganlyn:
- Gorbryder cymedrol neu ddifrifol – adroddodd 43% o'r bobl sy'n gofalu am blant ag anabledd deallusol am hyn, o'u cymharu ag 8% o rieni plant heb anabledd deallusol.
- Adroddodd 45% o'r bobl sy'n gofalu am blant ag anabledd deallusol am iselder cymedrol neu ddifrifol, o'u cymharu ag 11% o rieni plant heb y fath anabledd.
- Gwelwyd bod iselder sylweddol yn effeithio ar 31% o'r bobl sy'n gofalu am blant ag anabledd deallusol, ond dim ond 3% o rieni plant heb anabledd deallusol.
- Cymorth cymdeithasol – o'u cymharu â rheini plant heb anabledd deallusol, roedd pobl sy'n gofalu am blant ag anabledd deallusol yn cael llawer llai o gymorth o ffynonellau eraill, yn enwedig teulu a ffrindiau – er bod eu hanghenion yn fwy.
- Dim seibiant: pobl sy'n gofalu am oedolion ag anabledd deallusol. Gan fod gwasanaethau dydd a gofal seibiant i oedolion ar gau, roedd aelodau'r grŵp yn teimlo eu bod yn cael llawer llai o gymorth na phobl sy'n gofalu am blant, a allai anfon eu plant i'r ysgol pe baent am wneud hynny.
Meddai'r Athro Paul Willner o Brifysgol Abertawe, pennaeth y prosiect:
“Mae'r data yn awgrymu ei bod yn debygol bod y pandemig wedi effeithio'n niweidiol ar iechyd meddwl pobl sy'n gofalu am blant ac oedolion ag anabledd deallusol. Mae'r effaith hon ar ben unrhyw broblemau iechyd meddwl a oedd eisoes yn bodoli. Effeithir arnynt yn fwy hefyd na rhieni pobl heb anableddau, er nad ydynt yn cael cymorth cystal.
Mae ein canfyddiadau'n un enghraifft o'r ffordd y mae'r pandemig wedi ychwanegu at anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli.”
Mae'r awduron yn cyflwyno argymhellion ynghylch cefnogi gofalwyr yn well, gan gynnwys:
• Cymorth cyson hirdymor gan weithiwr allweddol penodol
• Hyfforddi mwy o nyrsys ynghylch anableddau dysgu, a chynnwys iechyd meddwl yn eu cylch gwaith
• Mwy o ddarpariaeth seibiant, a barheir yn ystod unrhyw gyfyngiadau symud eraill
• Galluogi gwasanaethau i gynnig cymorth gwell i ofalwyr o bell dros y ffôn neu ar-lein
• Rhoi cyfle i ofalwyr gael gafael ar gymorth iechyd meddwl arbenigol
• Grwpiau cefnogi cymheiriaid
Ychwanegodd yr Athro Willner:
“Dylem gydnabod y rôl hanfodol y mae gofalwyr anffurfiol yn ei chwarae a chymryd camau i sicrhau eu bod yn cael cymorth priodol a rhagweithiol. Bydd costau sylweddol i'r gofalwyr eu hunain ac i'r gymdeithas yn fwy cyffredinol os bydd salwch meddwl yn eu hatal rhag gallu parhau i ofalu am eu hanwyliaid.”
Cyhoeddwyd y gwaith ymchwil yn cyfnodolyn Journal of Applied Research in Intellectual Disabilities.