Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymysg enillwyr Gwobr y Faner Werdd unwaith eto eleni. Dyma arwydd rhyngwladol sy'n dynodi parc neu fan gwyrdd o safon.
Oherwydd gwaith caled tîm tiroedd y Brifysgol, bydd y faner yn parhau i chwifio ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae.
Yn ôl yr elusen Cadwch Gymru'n Daclus, mae'r wobr yn cydnabod cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel ac ymrwymiad i gynnig mannau gwyrdd o safon.
Lleolir safle hanesyddol y Brifysgol ym Mharc Singleton mewn parcdir hyfryd ac mae’r tiroedd hirsefydlog yn cynnig amrywiaeth o gynefinoedd, gyda glaswelltiroedd, coetiroedd aeddfed, ardaloedd sydd wedi’u plannu a phyllau, gan helpu i gefnogi bywyd gwyllt helaeth.
Mae Campws y Bae, sydd gyferbyn â Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn, yn cynnig cynefinoedd glan môr a digon o le i fynd ar grwydr.
Dywedodd y rheolwr tiroedd, Paul Edwards, fod ei dîm yn falch o sicrhau'r anrhydedd eto.
Meddai: “Nawr, yn fwy nag erioed, mae ein mannau awyr agored yn hanfodol at ddibenion cadw pellter cymdeithasol, yn ogystal â chynnig amgylchedd croesawgar y gellir ymlacio ynddo yn ystod cyfnod mor heriol ac ingol.
“Rydym bob amser yn sicrhau bod cynaliadwyedd wrth wraidd popeth a wnawn ac yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr er mwyn sicrhau y cynhelir y tiroedd mewn modd mor ecogyfeillgar â phosib.”
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae ein tiroedd yn rhan hanfodol o'r hyn sydd mor arbennig am ein prifysgol. Maent yn chwarae rôl bwysig wrth hybu lles ein staff a'n myfyrwyr fel ei gilydd ac rydym yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn gartref i fywyd gwyllt yn ogystal â phobl.
“Mae sicrhau bod ein hamgylchoedd yn cael eu rheoli'n dda, a bod cynaliadwyedd wrth wraidd pob datblygiad, ymysg prif flaenoriaethau ein Prifysgol.
“Rydym yn falch o fod ymysg 10 prifysgol fwyaf ecogyfeillgar y DU, diolch i waith caled cydweithwyr ymroddedig fel aelodau ein tîm rheoli tiroedd.”
Mae cyfanswm o 224 o barciau a mannau gwyrdd ledled y wlad wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd yn gynnar yn yr hydref i farnu safleoedd yn erbyn wyth maen prawf caeth, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli amgylcheddol a chyfraniad cymunedol.
Meddai Lucy Prisk, Cydlynydd Gwobr y Faner Werdd ar ran Cadwch Gymru'n Daclus: ׅ“Mae'r pandemig wedi dangos bod parciau a mannau gwyrdd o safon yn hollbwysig i'n cymunedau. Maent wedi bod yn hafan ar garreg drws i lawer ohonom, gan hybu ein hiechyd a'n lles.”
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am diroedd Prifysgol Abertawe
Ceir mwy o fanylion am enillwyr eleni drwy fynd i wefan Cadwch Gymru'n Daclus