Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe yn gofyn am wirfoddolwyr o Gymru i rannu eu hatgofion o drychinebau yn y gorffennol ar gyfer astudiaeth newydd a fydd yn edrych ar y ffordd y mae pobl sy'n byw yng Nghymru ac yn Ffrainc yn ymdrin â'r atgofion hyn.
Mae Lucrèce Heux, y myfyriwr PhD sy'n gwneud y gwaith ymchwil, yn gofyn am wirfoddolwyr i gwblhau holiadur ar-lein a fydd yn eu holi am eu hatgofion a'u dealltwriaeth o drychinebau yn y gorffennol ac i ba raddau y gwnaeth y digwyddiadau hyn aflonyddu arnynt a'r rhesymau dros hynny. Bydd Lucrèce yn defnyddio'r data i archwilio a oes unrhyw wahaniaethau rhwng atgofion pobl yng Nghymru ac yn Ffrainc o drychinebau.
Cynhelir yr astudiaeth ar y cyd â Phrifysgol Grenoble-Alpes yn Ffrainc ac fe'i hariennir drwy Ysgoloriaethau Ymchwil Partneriaid Strategol Prifysgol Abertawe (SUSPRS).
Meddai Lucrèce: “Gobeithio y bydd fy astudiaeth yn datgelu rhagor o wybodaeth am y prosesau sy'n ymwneud â'r ffordd rydym yn cofio trychinebau, fel unigolion ac fel aelodau o gymuned. Yn y cyd-destun globaleiddio presennol, gallem ddisgwyl rhai pethau tebyg yn ogystal â gwahaniaethau rhwng y ddwy wlad gyfagos.
“Hoffwn weld cynifer o bobl â phosib o Gymru'n cymryd rhan ac yn rhannu eu profiadau gwerthfawr, gan y byddant yn ein helpu i archwilio ffyrdd newydd o fesur cof ac angof. Yn y pen draw, bydd eu cyfraniad yn gwella ein dealltwriaeth o'r ffordd y mae cymunedau a thiriogaethau yr effeithiwyd arnynt gan drychinebau yn cael eu rheoli.”
Mae'r holiadur ar-lein ar gael yma
Ceir rhagor o wybodaeth drwy e-bostio Lucrèce: 941722@abertawe.ac.uk