Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe ymhlith pedwar myfyriwr yn unig ledled y wlad sydd wedi sicrhau grant gwerth £10,000 ar ôl cymryd rhan mewn cynllun dysgu newydd sy'n ymwneud â datblygiad personol a phroffesiynol.
Gwnaeth Ryan Lysycia, myfyriwr yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn y brifysgol, gymryd rhan yn rhaglen hunanddatblygu ar-lein Santander i fyfyrwyr ar y cyd ag 19 o fyfyrwyr eraill o'r brifysgol.
Mae'r cynllun hwn wedi rhoi cyfle i Santander Universities UK ymuno â Sporting Edge, ymgynghoriaeth perfformiad uchel sy'n cyfuno syniadau pwerus â seicoleg brofedig, i greu cwrs ar-lein wyth awr.
Eleni, gwnaeth 1,386 o fyfyrwyr o 73 o brifysgolion ledled y wlad gymryd rhan yn y cwrs, a oedd yn canolbwyntio ar themâu perfformiad megis ysgogiad personol, meddylfryd dysgu, hyder a llawer mwy. Ar ôl gorffen pob modiwl, rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr atgyfnerthu'r hyn roeddent wedi ei ddysgu drwy gwblhau cwis ar-lein. Yn unol â'r amodau a'r telerau, dyfarnwyd grant datblygu Santander gwerth £10,000 yr un i'r pedwar myfyriwr, y gallant ei ddefnyddio i ategu eu datblygiad proffesiynol neu bersonol.
Meddai Ryan: “Rwy'n ddiolchgar fy mod i wedi cael y cyfle i gael cip ar y syniadau a gyflwynir yn y rhaglen hon, megis dylanwad meddylfryd sy'n seiliedig ar ddatblygu, sut i ddysgu gwersi ein camgymeriadau a phwysigrwydd pennu nodau'n effeithiol.
“I mi, mae'r grant yn fuddsoddiad yn fy ngyrfa yn y dyfodol a bydd yn cyfrannu at gam nesaf fy addysg: Cwrs Ymarfer y Gyfraith. Rwy'n edrych ymlaen at ddefnyddio'r sgiliau a fagwyd drwy'r rhaglen hunanddatblygu wrth wireddu fy uchelgeisiau fel cyfreithiwr.”
Meddai Cyfarwyddwr Santander Universities UK, Matt Hutnell: “Hoffwn longyfarch i Ryan ac rwy'n gobeithio bod y rhaglen wedi bod o werth mawr iddo a'i fod yn edrych ymlaen at roi'r ddealltwriaeth y mae ef wedi'i meithrin ar waith yn ei fywyd personol a phroffesiynol.”
Meddai Simeon Smith, arbenigwr Academi Cyflogadwyedd Abertawe: “Rwy'n falch bod Ryan wedi bod yn llwyddiannus ac y bydd yn defnyddio'r grant er mwyn helpu i wireddu uchelgeisiau ei yrfa. Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn y brifysgol wedi bod yn gweithio gyda Santander Universities i gynnig interniaethau i'n myfyrwyr a chyllid i ddarparwyr yr interniaethau hynny. Drwy gefnogi'r rhaglen hunanddatblygu ar-lein ac interniaethau Santander, mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n helpu i gefnogi gyrfaoedd ein myfyrwyr yn y dyfodol, ac mae ein canlyniadau ardderchog yn arolwg Graduate Outcomes yn rhoi tystiolaeth o hynny.”