Bob blwyddyn, amcangyfrifir bod pedwar y cant o arwyneb tir y byd sydd wedi'i orchuddio â llystyfiant yn llosgi, gan adael mwy na 250 o fegatonau o blanhigion sydd wedi cael eu carboneiddio.
Mae ymchwil newydd sy'n ymwneud ag arbenigwyr tanau gwyllt o Brifysgol Abertawe wedi mesur, a hynny am y tro cyntaf, radicalau rhydd amgylcheddol barhaus yn y siarcol hwn, gan ddod o hyd i grynodiadau uchel iawn – hyd at bum mlynedd ar ôl y tân mewn rhai achosion.
Mae hyn yn bwysig gan y gall radicalau rhydd amgylcheddol barhaus greu rhywogaethau sy'n adweithio i ocsigen. Gall y rhain effeithio ar organebau byw mewn llawer o ffyrdd negyddol gwahanol.
Meddai'r Athro Stefan Doerr: “Gallai hyn fod yn berygl cudd parhaus ar ôl tanau.
“Gall fod yn arbennig o berthnasol yn yr ecosystemau hynny nad ydynt wedi ymaddasu i danau lle ceir mwy o danau'n ddiweddar oherwydd newid yn yr hinsawdd, megis coedwigoedd glaw trofannol neu dwndra'r Arctig.
“Gan fod cynhesu byd-eang ac effeithiau eraill y ddynolryw yn arwain at danau mwy sy'n fwy difrifol mewn rhannau helaeth o'r byd, mae deall y goblygiadau llawn i ecosystemau y mae tanau'n effeithio arnynt yn fater brys.”
Mae'r Athro Doerr a'i gydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe'n cynnal ymchwil fyd-eang i effeithiau tân ar brosesau amgylcheddol megis y gylchred garbon ac erydu, gan gasglu amrywiaeth o samplau siarcol o danau mewn coedwigoedd, tir prysg a glaswelltiroedd mewn parthau hinsoddol gwahanol.
Roedd y samplau hyn yn rhan hanfodol o'r ymchwil ddiweddaraf dan arweiniad Prifysgol Fienna, sydd newydd gael ei chyhoeddi yn Nature Communications Earth & Environment.
Meddai Dr Cristina Santin: “Rydym wedi casglu'r rhain yn ystod ymgyrchoedd yn y maes mewn llawer o barthau megis Canada, Ewrop a De Affrica dros y blynyddoedd. Roedd yr amrywiaeth eang o samplau yn hanfodol wrth ein galluogi i brofi bod y ffenomen hon yn bresennol ym mhob man.”
Anfonwyd y samplau i Fienna i'w dadansoddi, ynghyd â gwybodaeth am amseru, hyd a dwysedd y tanau. Yna, drwy ddefnyddio techneg sbectrosgopig cyseiniant sbin electronau, roedd yn bosib mesur y radicalau rhydd amgylcheddol barhaus yn y deunydd a astudiwyd a nodi eu hadeileddau cemegol cyfagos.
Roedd yr Athro Doerr a Dr Santin hefyd yn gallu cynnig arbenigedd ar gyd-destun effeithiau amgylcheddol tanau.
Mae canfyddiadau'r astudiaeth yn dilyn ymchwil flaenorol gan y tîm yn Abertawe, a wnaeth amcangyfrif bod siarcol byd-eang yn cynhyrchu oddeutu 256 Tg o garbon y flwyddyn, sy'n cyfateb i oddeutu 12 y cant o'r holl garbon sy'n deillio o danau.
Er iddi gynnig dealltwriaeth newydd, mae'r ymchwil hefyd wedi codi rhagor o gwestiynau: roedd y ffaith y ceir crynodiadau mor uchel o radicalau rhydd amgylcheddol barhaus a'u bod yn aros yn sefydlog dros sawl blwyddyn yn annisgwyl. Mewn astudiaethau yn y dyfodol, mae'r ymchwilwyr yn bwriadu asesu'r goblygiadau posib i'r amgylchedd.
Ychwanegodd Dr Santin: “Mae ein hymchwil yn dangos bod siarcol yn bresennol ym mhob man yn yr amgylchedd, felly mae'r ffaith bod radicalau rhydd amgylcheddol barhaus ynddo'n sicrhau y gwneir rhagor o waith ymchwilio.”