Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi datblygu dyfais unigryw sy’n gallu canfod COVID-19 mewn dŵr gwastraff cyffredin.
Bydd yr uned samplo newydd hon yn cael ei llunio i ganfod y clefyd mewn amser go iawn, fydd yn golygu bod modd rhybuddio cymunedau os oes amheuon bod crynhoad o achosion yn eu hardal.
Nod yr ymchwil, gan y Sefydliad Arloesol ym maes Deunyddiau, Prosesu a Thechnolegau Rhifyddol (IMPACT), yw cynorthwyo awdurdodau gyda chanfyddiad cynnar trwy fonitro dŵr gwastraff mewn carthffosiaeth. I wneud hynny, mae’r tîm ymchwil wedi addasu technoleg synhwyrydd sydd eisoes yn bodoli i greu uned samplo newydd, awtomatig, fydd yn gweithio’n barhaus heb i neb orfod rhoi sylw iddi.
Mae’r offer arloesol yn cynnwys prôb amlddadansoddol gyda sawl synhwyrydd deallus, a fydd yn casglu ac yn prosesu samplau’n barhaus. Bydd y prôb yn cael ei osod mewn carthion amrwd, cyn iddyn nhw gael eu trin, er mwyn cofnodi lefel arwyddion o feirws COVID-19. Mae amgaead y ddyfais, sydd wedi’i greu o blastig a ailgylchwyd, yn cael ei argraffu mewn 3D ac fe’i lluniwyd i’w fasgynhyrchu.
Hyd yma, ni sefydlwyd unrhyw ddulliau safonol o ganfod y feirws mewn dŵr gwastraff. Fodd bynnag, mae addasu technoleg synwyryddion bresennol y tîm yn golygu bod modd i’r ymchwilwyr adnabod bionodau clefydau, gan gynnwys COVID-19, ar sail newid yng ngwrthiant wyneb actif y synhwyrydd.
Fel y dywed arweinydd y prosiect, Dr Sarper Sarp:
‘Y weledigaeth yw bod y system hon yn cael ei hintegreiddio’n llwyr i rwydwaith carthffosydd presennol Cymru, gan greu system wyliadwriaeth amser go iawn ar draws y wlad, wedi’i chysylltu trwy rwydwaith ar ffurf rhwyll di-wifr. Bydd y data a gesglir yn cael ei ddadansoddi gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) i ddarparu system goleuadau traffig, fydd yn dynodi bod maestrefi, ardaloedd neu ranbarthau unigol yn barthau coch, melyn neu wyrdd, yn dibynnu ar y lefelau COVID-19 y deuir o hyd iddynt.’
Bydd y synwyryddion a ddefnyddir yn y system wedi’u seilio ar dechnoleg biosynhwyro graffen sydd eisoes yn bodoli, a ddefnyddiwyd yn flaenorol i ganfod feirws hepatitis B yn llwyddiannus, ac sydd wedi cael ei hailgalibreiddio i ganfod COVID-19. Bydd y system gwbl integredig yn cael ei phrofi a’i gwirio mewn labordy gan ddefnyddio samplau dŵr gwastraff a ddarparwyd gan Dŵr Cymru, yn barod ar gyfer ei hehangu’n fasnachol.
 Dr Sarper Sarp ymlaen i ddweud:
‘Mae pandemig COVID-19 wedi amlygu bod bylchau gwybodaeth ar raddfa haint firaol yn y boblogaeth yn gallu achosi wythnosau o oedi wrth gymryd camau i’w reoli’n effeithiol – gan arwain at y sgîl-effeithiau dilynol i iechyd y cyhoedd a’r economi. Eisoes yng Ngogledd Cymru rydym wedi gweld achosion o lefelau trafferthus yn effeithio ar gannoedd o weithwyr ffatri gig, ond heb fedru mesur ymlediad y feirws mewn amser go iawn. Bydd y prosiect hwn yn integreiddio monitro parhaus i greu system cadw gwyliadwraeth ar garthffosiaeth fydd yn rhybudd cynnar rhag crynhoad o achosion o COVID-19.’
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams,
“Mae prifysgolion Cymru wedi bod ar y blaen yn yr ymateb i Covid-19, gan ddatblygu atebion i'r heriau niferus mae'r pandemig wedi'u cyflwyno. Ar hyd y cyfnod yma, bydd penderfyniad ein prifysgolion dawnus yn helpu i sicrhau ein bod ni'n dod allan o'r argyfwng hwn yn gryfach ac yn barod ar gyfer y dyfodol.
“Trwy ein rhaglen Sêr Cymru - Taclo COVID-19, gallai prosiectau ymchwil fel hwn dan arweiniad Dr Sarper Sarp ym Mhrifysgol Abertawe helpu i atal lledaeniad y feirws yn gynnar, ac fe allai'r canlyniadau ddylanwadu ar is-grŵp Amgylcheddol Llywodraeth Cymru, TAG ac arweinwyr polisi.
“Bu buddsoddi mewn ymchwil wyddonol newydd yn hanfodol i'n prifysgolion erioed, ac o fudd i economi ehangach Cymru.”
Mae’r tîm ymchwil yn cynnwys yr Athro Paul Rees, yr Athro Owen Guy, Dr Sanjiv Sharma a Cynorthwywyr Ymchwil Dr. Ffion Walters, Mr. Jack Smith, and Mr. Louis Giron – yn gweithio gyda’r partneriaid diwydiannol Biovici.
Ariannir y prosiect trwy raglen Taclo COVID-19 Sêr Cymru. Mae rhaglen IMPACT yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe.