Wrth i ŵyl Tafwyl ddathlu ei phen-blwydd yn bymtheg oed eleni, mi fydd Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe yn noddi llwyfan Llais yr ŵyl unwaith eto eleni, gan gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau llenyddol rhithwir i bobl o bob oed.
Cynhelir prif ddigwyddiadau’r ŵyl ddigidol ar ddydd Sadwrn 15 Mai, gyda digwyddiadau ymylol yn ystod Wythnos ffrinj Tafwyl rhwng 8-16 Mai. Mae’r holl ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim, ac mi fydd y cyfan yn cael eu ffrydio ar-lein, gydag uchafbwyntiau ar S4C.
Ymysg y digwyddiadau a fydd yn cael eu cyflwyno gan Academi Hywel Teifi , bydd yr actor Andrew Teilo yn sgwrsio a’i diwtor, y Prifardd Tudur Hallam, yn Yr Actor a'i Stori, gan drafod ei awydd i droi'n awdur a'r modd y lluniodd gasgliad o straeon byrion i ennill gradd MA yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Bydd Andrew yn trafod ei daith greadigol i fyd y stori fer, ac yn cyflwyno’r gynulleidfa i ambell gymeriad a stori newydd.
Yn y sesiwn Hanes Cymry, bydd Dr Simon Brooks o Ysgol Reolaeth y Brifysgol yn cyflwyno’i gyfrol Pwy yw'r Cymry?, y gyfrol gyntaf am hanes lleiafrifoedd ethnig yn y Gymru Gymraeg sy’n cael ei chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru ym mis Mehefin. Bydd Simon yn trafod hanes yr iaith Gymraeg fel iaith aml ethnig o ddyddiau Macsen Wledig hyd heddiw, gan ystyried hanes y Sipsiwn Cymreig, Gwyddelod yng Nghymru, aml ethnigrwydd cefn gwlad a hiliaeth yn erbyn pobl dduon. Bydd Dr Brooks yn cael ei holi gan yr arbenigwr ar ieithoedd lleiafrifol, amlddiwylliannedd a dinasyddiaeth, Dr Gwennan Higham o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe.
Meddai cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon: “Mae Academi Hywel Teifi yn falch iawn o noddi llwyfan Llais Tafwyl unwaith eto eleni. Dymunwn ben-blwydd hapus iawn i’r ŵyl a hithau yn ei phymthegfed flwyddyn, ac edrychwn ymlaen at fwynhau’r arlwy o drafodaethau, sgyrsiau, cerddoriaeth a mwy. Mae Tafwyl yn ŵyl arbennig ar gyfer hybu’r iaith ac i ddathlu’n Cymreictod, ac mae’n fraint cael llwyfan yn yr ŵyl i rannu gwaith ac arbenigedd myfyrwyr, ysgolheigion, cyn-fyfyrwyr a chyfeillion disglair Prifysgol Abertawe."