Mae hanesydd o Brifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Hanes Wolfson 2021. Dyma’r wobr uchaf ei bri yn y DU ar gyfer llenyddiaeth hanesyddol, sy'n dathlu llyfrau ffeithiol hanesyddol gorau'r flwyddyn ddiwethaf ac yn cynnig gwobr sy'n werth £40,000.
Mae Survivors: Children’s Lives After the Holocaust gan Dr Rebecca Clifford yn dilyn bywydau cant o blant Iddewig a wnaeth oroesi'r Holocost, gan ddefnyddio tystiolaeth lafar i herio rhagdybiaethau am drawma cyn ein helpu i ddeall y profiad o fyw ar ôl goddef plentyndod llawn helbul a thristwch.
Mae'r rhestr fer yn 2021 yn adlewyrchu'r amrywiaeth anhygoel o bynciau y mae ysgrifennu hanesyddol yn ymdrin â hwy, wrth i lyfrau sy’n archwilio hanes lleoliadau pwysig ym mhedwar ban byd ymddangos ochr yn ochr ag astudiaethau personol o fywydau unigol a grwpiau sy'n taflu goleuni ar brofiadau modern.
Y canlynol yw'r llyfrau sydd ar restr fer Gwobr Hanes Wolfson 2021:
- Survivors: Children’s Lives after the Holocaust gan Dr Rebecca Clifford
- Black Spartacus: The Epic Life of Toussaint Louverture gan Sudhir Hazareesingh
- Ravenna: Capital of Empire, Crucible of Europe gan Judith Herrin
- Double Lives: A History of Working Motherhood gan Helen McCarthy
- Burning the Books: A History of Knowledge Under Attack gan Richard Ovenden
- Atlantic Wars: From the Fifteenth Century to the Age of Revolution gan Geoffrey Plank
Gwobr Hanes Wolfson, a gyflwynwyd am y tro cyntaf gan The Wolfson Foundation ym 1972, yw'r wobr fwyaf gwerthfawr yn y DU ar gyfer llenyddiaeth ffeithiol. Cyflwynir y wobr yn flynyddol ac mae'r enillydd yn derbyn £40,000 ac mae pob awdur ar y rhestr fer yn derbyn £4,000.
Ar ôl cyrraedd y rhestr fer, meddai Dr Clifford, athro cysylltiol hanes modern Ewrop ym Mhrifysgol Abertawe: “Ysgrifennais Survivors er mwyn archwilio cwestiwn: ‘Sut gallwn ni adrodd hanes ein bywydau heb ymwybyddiaeth o'n gwreiddiau?’ Ar ôl degawd o ymgymryd â hanes llafar, roeddwn wedi sylweddoli bod gennym i gyd stori am ein gwreiddiau ein hunain, a bod y straeon hynny'n dilyn patrymau penodol. Fodd bynnag, roedd yn rhaid i lawer o oroeswyr yr Holocost dreulio amser helaeth heb wybod am fanylion eu gwreiddiau.
“Nid oedd gan y goroeswyr ifancaf unrhyw atgofion cyn y rhyfel, a dim ond atgofion llawn bylchau o gyfnod y rhyfel oedd ganddynt yn aml. Ar ddiwedd y rhyfel, roedd deunydd cymdeithasol eu byd wedi cael ei ddinistrio – ac eto, i blant, y deunydd cymdeithasol hwn sy'n ein helpu i lenwi'r bylchau yn ein hatgofion cynnar anghyflawn. Roedd yn rhaid i'r plant a oedd wedi goroesi fod yn haneswyr eu hunain er mwyn ateb y cwestiwn sylfaenol hwnnw: ‘Pwy ydw i?’
“Roedd yn rhaid i mi ddysgu ffordd newydd o ysgrifennu ar gyfer Survivors, gan gymysgu ysgolheictod academaidd ag arddull ysgrifennu hawdd ei deall. Roeddwn am i unrhyw un allu darllen Survivors a gweld adlewyrchiad o'i ymdrechion ei hun i ddeall atgofion ei blentyndod ynddo. Mae cyrraedd rhestr fer y wobr yn awgrymu fy mod wedi llwyddo, ac rwyf ar ben fy nigon.”
Gan drafod Survivors: Children’s Lives after the Holocaust, meddai'r beirniaid: “Yn wreiddiol ac yn afaelgar, mae'r llyfr hwn yn mynd ati'n goeth i ddadansoddi myth distawrwydd goroeswyr ar ôl y rhyfel ac yn adfer llais i blant yr Holocost.”
Cyhoeddir enillydd Gwobr Hanes Wolfson 2021 ddydd Mercher 9 Mehefin 2021 mewn seremoni rithwir.