Mae Working Families, yr elusen cydbwyso bywyd a gwaith, wedi cyhoeddi'r ymgeiswyr terfynol ar gyfer y Gwobrau Arferion Gorau blynyddol.
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer categori'r cyflogwr gorau ar gyfer gofalwyr a gofalu ar yr henoed yng Ngwobrau Arferion Gorau Working Families. Mae cyflogwyr o bob maint o wahanol sectorau'n cystadlu'n flynyddol i gyrraedd rhestr fer y gwobrau busnes unigryw ar gyfer sefydliadau hyblyg, ystwyth.
Mae Gwobrau Arferion Gorau Working Families, sydd yn eu deuddegfed flwyddyn, yn dangos ac yn dathlu cyflogwyr sy'n cynnig hyblygrwydd i'w holl bobl ac sy'n mynd gam ymhellach i gefnogi rhieni a gofalwyr.
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer categori'r cyflogwr gorau ar gyfer gofalwyr a gofalu am yr henoed o ganlyniad i weithgareddau Athena Swan, sydd wedi rhoi polisïau a mentrau ar waith i gefnogi aelodau o staff a myfyrwyr sy'n ofalwyr, gan eu helpu i gydbwyso cyfrifoldebau gweithio neu astudio a gofalu.
Mae'r mentrau allweddol yn cynnwys datblygu'r pasbort gofalwyr a'i roi ar waith, gan gynnig cyfle i aelodau o staff gael sgyrsiau tosturiol â rheolwyr llinell er mwyn nodi eu hanghenion a chytuno ar gynllun gweithredu i gefnogi eu cyfrifoldebau gweithio a gofalu.
Mae'r Brifysgol hefyd yn aelod o'r elusen Cyflogwyr i Ofalwyr ac mae wedi buddsoddi yn Adnodd Digidol Carers UK, sy'n rhoi gwybodaeth i ofalwyr, hyfforddiant ar-lein a mynediad am ddim i ap sy'n galluogi aelodau o staff i gydlynu gofal y rhai sy'n ddibynnol arnynt.
Ar ben hynny, mae rhwydwaith ar gyfer aelodau o staff sy'n ofalwyr. Cynhelir cyfarfodydd ar-lein, ac wyneb yn wyneb cyn y pandemig. Mae'n cynnig cymorth gan gymheiriaid ac awgrymiadau ymarferol ac yn gwahodd siaradwyr megis cynrychiolwyr Canolfan Gofalwyr Abertawe.
Mae'r Brifysgol hefyd yn cydnabod bod angen cymorth ar bobl eraill yn ogystal ag aelodau o staff, ac mae'n rhoi cyllid gwerth £1,000 y flwyddyn i fyfyrwyr sy'n ofalwyr, yn ogystal â chynnal cyfarfodydd cymorth misol â staff lles myfyrwyr.
Mae'r Athro Joy Merrell, Athro Emeritws (Gwyddorau Dynol ac Iechyd) ym Mhrifysgol Abertawe: “Rwy'n falch bod Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer gwobr arferion gorau Working Families ar gyfer gofalwyr a gofalu am yr henoed.
“Rydym yn cydnabod y bydd y rhan fwyaf o bobl yn gofalu am rywun rywbryd yn eu bywyd, ac mae cyrraedd rhestr fer y wobr hon yn gydnabyddiaeth genedlaethol o'n hymrwymiad i gefnogi'r aelodau gwerthfawr hyn o'n cymuned ym Mhrifysgol Abertawe.”
Meddai Jane van Zyl, Prif Weithredwr Working Families a Chadeirydd y panel beirniadu:
“Llongyfarchiadau mawr i Brifysgol Abertawe am fod ar ein rhestr fer. Mae cyrraedd y cam hwn mewn blwyddyn hynod gystadleuol yn dangos bod ei harweinwyr yn creu diwylliannau gwaith sy'n gefnogol ac yn hyblyg. Ymysg y nifer mwyaf o geisiadau erioed, denwyd sylw'r panel beirniadu gan gais eithriadol Prifysgol Abertawe yng nghategori'r cyflogwr gorau ar gyfer gofalwyr a gofalu am yr henoed.
“Mae'r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn hynod heriol i bawb, yn enwedig i lawer o rieni sy'n gweithio. Bu'n rhaid iddynt ddod o hyd i ffyrdd o gydbwyso gweithio â gofalu am blant. Rydym yn gwybod lle mae cyflogwyr wedi mabwysiadu arferion gweithio hyblyg fod dod o hyd i'r cydbwysedd cywir wedi rhoi llai o straen o lawer ar unigolion, gan alluogi cyflogeion i fod mor gynhyrchiol â phosib yn eu swydd.
“Wrth i ni symud o'r pandemig i'r ‘normal newydd’, rydym yn benderfynol o ddefnyddio'r gwersi a ddysgwyd gennym er budd mwy o'r 13 miliwn o rieni sy'n gweithio yn y DU. Mae'r sefydliadau rhagorol sydd wedi cyrraedd rhestrau byr Gwobrau Arferion Gorau eleni'n arwain y ffordd wrth ddangos bod polisïau gweithio hyblyg sy'n addas i deuluoedd yn fuddiol i fusnesau, yn ogystal â bod yn fuddiol i bobl. Pan fydd gan gyflogeion fwy o reolaeth dros eu hamser, rydym yn gweld ei bod hi'n haws ennyn eu brwdfrydedd a'u cadw, a bod sefydliadau'n perfformio'n well.”
Cyhoeddir yr enillwyr ar 27 Mai 2021.