Cynhelir digwyddiad am ddim a fydd yn dangos yr hyn y gallai addysg mewn prifysgol ei gynnig yng nghanol dinas Abertawe ddydd Mawrth, 6 Gorffennaf.
Bydd y digwyddiad, a gyflwynir gan Brifysgol Abertawe fel rhan o'r Rhaglen Addysg i Oedolion, yn grymuso ac yn helpu pobl 21 oed neu'n hŷn sy'n byw yn ne-orllewin Cymru i gymryd eu camau cyntaf tuag at addysg uwch.
Bydd ymwelwyr â lleoliad arddangos newydd Oriel Science, ger Sgwâr y Castell, yn gweld arddangosion ymarferol gwych ac yn gallu cael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd dysgu pellach.
Cynhelir cyfres o sesiynau hefyd, gan gynnwys Cyfrinachau Mymïo ac Ymwybyddiaeth Ofalgar drwy Lego – gellir cofrestru ar gyfer y sesiynau hyn ar-lein neu'n bersonol ar y diwrnod.
Meddai Claudia Mollzahn, Swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu ag Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe: “Rydym yn cynnig digwyddiadau, sesiynau gwybodaeth a chyrsiau byr am ddim er mwyn rhoi gwybod i aelodau'r cyhoedd am y cyfleoedd dysgu newydd a all arwain at gymwysterau ffurfiol.
“Mae'r digwyddiad hwn yn berffaith ar gyfer pobl dros 21 oed sy'n teimlo nad ydynt wedi gwneud y mwyaf o'u hamser yn yr ysgol neu sy'n chwilio am gyfeiriad newydd.
“Os ydych wedi colli addysg bellach oherwydd iechyd gwael, llety annigonol, neu gyfrifoldebau eich gyrfa ac os hoffech ddechrau dysgu'n ffurfiol eto, rydym yma i'ch helpu.”
Gellir cael rhagor o wybodaeth, archwilio rhestr gyflawn o'r sesiynau sydd ar gael, neu gadw eich lle drwy fynd i: swan.ac/DysguGydolOes