Mae ymchwilwyr yn Ffowndri Gyfrifiadol Prifysgol Abertawe wrthi'n rhannu dyfais newydd, rad sy'n cyfuno cysyniad peiriant pleidleisio cyhoeddus traddodiadol â chyfleuster diheintio dwylo awtomatig.
Technoleg ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd yw Squirty Voter, sydd wedi cael ei harloesi gan ddau ymchwilydd o'r prosiect Cherish-DE, Gavin Bailey a Dr Cameron Steer, ac a all helpu i gadw pobl yn ddiogel ac atal Covid-19 rhag lledaenu drwy ymgorffori modd arferol o ddiheintio dwylo yn y ddyfais.
Meddai Dr Steer: “Ers i'r pandemig ddechrau, rydym i gyd wedi bod wrthi'n ceisio lleihau'r germau sy'n cael eu lledaenu er mwyn cadw pobl yn ddiogel. Un agwedd fu cyfyngu ar ein cysylltiadau ag arwynebau cyhoeddus, yn ogystal â golchi a diheintio ein dwylo'n rheolaidd.
“Mae technoleg ar gyfer gofyn cwestiynau i'r cyhoedd yn wych at ddibenion galluogi pobl i fynegi eu barn a'u teimladau, ond yn aml mae'n rhaid iddynt gyffwrdd â botymau neu sgriniau. Gwnaethom adeiladu Squirty Voter er mwyn parhau i ymgysylltu â'r cyhoedd, a hynny mewn ffordd fwy diogel drwy gael gwared ar yr angen i gyffwrdd â botymau cyhoeddus, a all fod yn aflan.”
Bydd Squirty Voter, dyfais sy'n cael ei threialu ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe ar hyn o bryd, yn galluogi pobl i bleidleisio neu ateb cwestiwn wrth y cyfleuster diheintio dwylo heb gyffwrdd ag unrhyw arwynebau. Gofynnir cwestiwn i'r defnyddiwr, a fydd yn ateb drwy ddewis un o ddau hylif diheintio dwylo sy'n gweithredu'n awtomatig pan roddir llaw o dan y peiriant. Yna caiff yr atebion hyn eu cofnodi gan declyn microreoli yn seiliedig ar y peiriant a ddefnyddir.
Gallai unrhyw un sydd am ofyn cwestiynau i ddefnyddwyr fanteisio ar y ddyfais wrth wneud yn fawr o gyfleusterau diheintio dwylo. Er enghraifft, gallai perchennog siop ei defnyddio er mwyn holi cwsmeriaid am eu profiad siopa.
Mae fersiwn bresennol Squirty Voter yn costio oddeutu £150 ar gyfer dau declyn diheintio dwylo awtomatig sy'n cynnwys dyfais, cyflenwad pŵer a hylif diheintio dwylo, Arduino i gofnodi atebion, bwrdd MDF a gwifren.
Ceir manylion y côd a'r galedwedd angenrheidiol i greu dyfeisiau Squirty Voter ar ei gwefan ynghyd â chais i unrhyw un sy'n creu dyfais rannu'r wybodaeth honno drwy #SquirtyVoter.