Profwyd bod ymatebwyr cyntaf a staff y GIG yn fwy gwydn yn ystod diwrnodau cyntaf y pandemig

Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod ymatebwyr cyntaf a gweithwyr gofal iechyd wedi profi lefelau is o drallod seicolegol na'r boblogaeth gyffredinol yn ystod y cyfnod clo cyntaf.

Cymharodd yr ymchwil, dan arweiniad yr Athro Nicola Gray a Jennifer Pink, o Brifysgol Abertawe, a'r Athro Robert Snowden o Brifysgol Caerdydd, lefelau trallod rhwng gwahanol grwpiau galwedigaethol a'r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2020.

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys 12,989 o gyfranogwyr a chafodd ei chefnogi gan lawer o sefydliadau'r sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys pob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru, y pedwar heddlu yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru a'r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Yn ogystal â chanfod bod ymatebwyr cyntaf a gweithwyr gofal iechyd yn profi lefelau is o drallod, nododd hefyd fod lefelau uwch o wydnwch seicolegol gan gyflogwyr tân ac achub a staff yr heddlu o'u cymharu â'r rhan fwyaf o grwpiau gweithwyr eraill.

Ar ôl ystyried ffactorau megis rhyw, oedran a'r mynegiant amddifadedd (sydd i gyd yn gysylltiedig â thrallod seicolegol), roedd cyflogeion y gwasanaeth tân ac achub yn dal i fod hanner mor debygol o fod wedi profi trallod yn ystod y cyfnod hwn.

Meddai'r Athro Gray, o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: “Cymharon ni fesurau rhwng swyddi gweithwyr allweddol gwahanol a'r boblogaeth gyffredinol a chawsom ganlyniadau a wnaeth beri syndod. Roedd lefelau trallod seicolegol staff yr Heddlu, gweithwyr gofal iechyd y GIG a gweithwyr tân ac achub yn is na rhai’r boblogaeth gyffredinol yn ôl y canfyddiadau."

Er bod y data'n paentio darlun cymharol gadarnhaol o gyflwr seicolegol ymatebwyr cyntaf a gweithwyr gofal iechyd ar ddechrau'r pandemig, dywedodd yr Athro Gray y gallai hyn fod yn sefyllfa dros dro.

Mae damcaniaeth allweddol o ran gweithrediad emosiynol yn ystod sefyllfaoedd trychineb yn rhagweld cynnydd cychwynnol mewn lles seicolegol yn syth ar ôl effaith trychineb. Cysylltir hyn yn benodol â phobl sy'n helpu eraill, ac sydd â rôl mewn helpu pobl eraill i ymdopi ag adfyd.

Fodd bynnag, yn aml iawn, yr hyn sy'n dilyn y 'cyfnod arwrol' hwn o les gwell yw dirywiad seicolegol mawr mewn lles, sy'n mapio i gyfnod o ddadrith a theimladau anobeithiol. Mae ymchwil ddilynol yn archwilio a yw'r cwymp hwn wedi digwydd yn achos ymatebwyr cyntaf a staff gofal iechyd.

Meddai'r ymchwilydd Jen Pink: "Mewn sefyllfaoedd trychineb, gall rhoi cymorth cynhyrchiol ac agwedd anhunanol gynnig buddion seicolegol, gan gynyddu lefelau lles emosiynol. Fodd bynnag, yn ystod y cam cyntaf o'r cyfnod clo, roedd y cyfyngiadau a roddwyd ar y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru, sef i aros gartref a lleihau rhyngweithio cymdeithasol i’r lefel isaf bosib, yn eu hatal rhag perfformio'r gweithredoedd cadarnhaol hyn, ac felly elwa’n emosiynol yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“I'r gwrthwyneb, roedd y bobl hynny mewn rolau ymatebwyr cyntaf a gofal iechyd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r cyhoedd yn gallu helpu eraill, bod yn ddefnyddiol ac yn allgarol ac felly cawsant hwb i’w lles seicolegol.”

Mae'r papur ymchwil, Psychological distress and resilience in first responders and healthcare workers during the Covid-19 pandemic, newydd gael ei gyhoeddi yn Journal of Occupational and Organizational Psychology Cymdeithas Seicolegol Prydain.

Bydd ymchwil yn y dyfodol yn edrych ar ddata o adegau hwyrach yn y pandemig i weld a oes pwyntiau gwahanol ar lwybr trychineb ac a yw hyn yn effeithio’n wahanol ar grwpiau galwedigaethol amrywiol .

Dywedodd yr Athro Snowden: “O gofio perthynas bwysig gwydnwch â chynnal lles seicolegol, mae'r canfyddiadau hyn yn tanlinellu pwysigrwydd meithrin gwydnwch ar draws grwpiau galwedigaethol, yn enwedig i'r rhai hynny a allai fod yn wynebu sefyllfaoedd hynod heriol yn ddyddiol ac rydym yn dibynnu arnynt i'n helpu ni i ymdopi â heriau pandemig Covid.”

 

Rhannu'r stori