Yn ôl adroddiad newydd mae pobl fyddar yng Nghymru yn profi anghydraddoldebau iechyd meddwl sylweddol oherwydd bod diffyg gwasanaethau hygyrch, nid oes gwasanaeth iechyd meddwl Byddar arbenigol yng Nghymru a hyfforddiant cyfyngedig am faterion Byddar ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal.
Pobl Fyddar Cymru: Mae Anghydraddoldeb Cudd yn tynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu pobl Fyddar yng Nghymru sy'n profi problemau iechyd meddwl ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud newidiadau sylweddol.
Caiff yr adroddiad, sydd wedi ei lunio gan Grŵp Iechyd Meddwl a Llesiant Byddar Cymru, ei lansio ar Hydref 21 yng Ngrŵp Trawsbleidiol y Senedd ar gyfer Materion Byddar ac mae copïau eisoes wedi'u hanfon at aelodau'r Senedd i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy’n cael eu codi.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Gweithredu Cyfyngedig o Safonau Gwybodaeth Hygyrch Cymru Gyfan a olyga nad yw pobl Fyddar yn dal i gael gwybodaeth mewn ffyrdd y gallant ddeall ac ymgysylltu â nhw;
- Angen am wasanaeth cyngor a chyfeirio ar gyfer unigolion, teuluoedd, a gweithwyr;
- Bwlch gwybodaeth oherwydd nad oes nifer o weithwyr iechyd proffesiynol yn gwybod am wasanaethau cwnsela Byddar i bobl Fyddar sy'n cael eu darparu gan bobl Fyddar; a,
- Er mwyn cael mynediad llawn i gyfathrebu BSL ar gyfer asesiad a / neu driniaeth, rhaid derbyn pobl fyddar i wardiau iechyd meddwl arbenigol Birmingham, Llundain neu Fanceinion.
Mae Dr Julia Terry, Athro Cysylltiol iechyd meddwl a nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe, ymhlith yr awduron. Meddai: “Mae iechyd meddwl pobl Fyddar yng Nghymru wedi bod yn fater a esgeuluswyd ers degawdau.
“Mae pobl fyddar eisoes ddwywaith y risg o broblemau iechyd meddwl ac yn ei chael yn anodd iawn cael cymorth gan mai anaml y mae gwasanaethau’n darparu gwybodaeth hygyrch neu wasanaethau sy’n berthnasol yn ddiwylliannol.
“Os na fydd unrhyw beth yn newid, bydd iechyd meddwl pobl Fyddar yng Nghymru yn parhau i fod mewn perygl.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau sgwrs i ddatblygu atebion tymor byr a thymor hir i wella gwasanaethau yng Nghymru i bobl Fyddar sy’n profi iechyd meddwl gwael.”
Grŵp Iechyd Meddwl a Llesiant Byddar Cymru yw:
Paul Redfern - Cadair: Grŵp Iechyd Meddwl a Llesiant Byddar Cymru, Cyn Rheolwr BDA Cymru
Jacqui Bond – cyn Weithiwr Cymdeithasol Arbenigol yr Awdurdod Lleol gyda phobl Fyddar
Cath Booth – Pennaeth Gwasanaethau, Achieve Together, Gwasanaethau Gofal a Chefnogaeth
Anouschka Foltz – Athro Cysylltiol: Ieithyddiaeth, University of Graz, Awstria, ymchwilydd gofal iechyd gyda phobl Fyddar
Michelle Fowler Powe – Cydlynydd Eiriolaeth: British Deaf Association
Helen Green – Rheolwr Rhaglen, Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ceri Harris –Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ABUHB – cyn EDI Velindre
Roger Hewitt – British Society of Mental Health and Deafness
Stephanie Hill – Rheolwr Gwasanaethau Cymorth Busnes, Centre for Sign, Sight and Sound (COS)
Christopher Shank – Uwch Ddarlithydd: Ieithyddiaeth, Prifysgol Bangor, ymchwilydd mewn gofal iechyd gyda phobl Fyddar
Anne Silman – Cyfarwyddiaeth iechyd meddwl UHB Gogledd Cymru Betsi Cadwaladr – Esiampl Wych Comisiwn Bevan
Louise Sweeney – Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Pobl Fyddar Cymru
Julia Terry – Athro Cyswllt: Prifysgol Abertawe, iechyd meddwl a nyrsio
Sofia Vougioukalou – Ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd, Dementia, gofalwyr byddar, a phrofiad y claf