Mae'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR), yn lansio eu ap cyntaf heddiw i gefnogi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn.
Mae ap CADR yn cysylltu'n uniongyrchol â phrif thema Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, Ecwiti Digidol i Bob Oed, “dod ag ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynnwys pobl hŷn yn ddigidol, wrth fynd i'r afael â stereoteipiau, rhagfarn a gwahaniaethu sy'n gysylltiedig â digideiddio”.
Nod CADR yw gwella bywydau pobl hŷn fesul ymchwil, polisi ac ymarfer ac fe'i cefnogir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Crëwyd ap CADR i oresgyn rhai o’r rhwystrau a’r heriau i gwrdd yn bersonol a achosir gan COVID-19. Mae'r ap yn ehangu cyrhaeddiad gweithgareddau ymgysylltu ac ymwneud CADR mewn dull newydd sbon. Rhagwelir y bydd ap CADR newydd yn cefnogi'r rhai sydd wedi'u gwahardd yn ddigidol o'r blaen, ac i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a phresennol.
Gobeithia CADR adeiladu cysylltiadau pellach yng Nghymru a thu hwnt, gan gynyddu cyfleoedd i'r cyhoedd gymryd rhan a chyfranogi mewn ymchwil a gefnogir gan CADR a sefydliadau cydweithredol eraill.
Meddai’r Athro Charles Musselwhite, cyd-gyfarwyddwr CADR:
“Rydym wrth ein bodd ein bod ni’n gallu cynnig cyfle i bobl fyned deunydd yn ymwneud a CADR fesul yr ap. Er bod mwy o bobl hŷn yn dechnegol frwd ac ar-lein nag erioed o'r blaen, rydym yn cydnabod y gall llywio gwefannau, fel trafod gwahanol fwydlenni, fod yn heriol.
Gobeithio y bydd hyn yn sicrhau bod pobl yn gallu cyrchu holl adnoddau CADR, ein newyddion a'n gweminarau’n hawdd, er enghraifft, a chymryd rhan gyda CADR o siop un stop wrth gyffyrddiad bys gan ei gwneud yn hygyrch i bawb! Edrychwn ymlaen at weld pobl yn ei lawrlwytho a'i ddefnyddio cyn gynted â phosibl.”
Meddai'r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
"Mae gan yr ap ran bwysig i'w chwarae wrth ganiatáu i bobl hŷn gael gafael ar wybodaeth a chymryd rhan ac ymchwilio i newid bywyd gan y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia. Mae'n ddatblygiad allweddol wrth oresgyn rhai o'r rhwystrau sy'n ymwneud ag allgáu digidol mewn ymchwil iechyd a gofal."
Gellir lawrlwytho ap CADR yn rhad ac am ddim ar Android a theclynnau IOS.