Er mwyn nodi Diwrnod y Byd ar gyfer Gweld (14 Hydref), mae adroddiad newydd gan dîm ymchwil o Brifysgol Abertawe wedi datgelu bod pobl dall a rhai sydd â nam ar y golwg yn dal i wynebu rhwystrau sy'n eu hatal rhag gwneud y mwyaf o wasanaethau digidol.
Yn aml, caiff nodweddion hygyrchedd eu trin fel ychwanegion er mwyn datrys unrhyw broblemau posib, gan arwain at systemau gweithredu, porwyr gwe, dyfeisiau symudol a chyfryngau sy'n anghydnaws. Mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe'n argymell glynu wrth ganllawiau dylunio priodol ac arferion gorau, a'u datblygu a'u mireinio, er mwyn safoni'r materion hyn yn well. Yn ogystal, maent yn awgrymu bod parhau i gynnig cymorth a hyfforddiant yn flaenoriaeth o hyd gan fod pandemig byd-eang Covid-19 wedi cynyddu'r bwlch digidol a'r bylchau o ran sgiliau a oedd eisoes yn bodoli rhwng pobl â nam ar y synhwyrau a phrif ffrwd ein cymdeithas.
Un o effeithiau'r pandemig oedd dibyniaeth gynyddol ar dechnolegau cyfathrebu digidol fel rhan hanfodol o fywyd pob dydd. Fodd bynnag, mewn adroddiad ar y cyd â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) ac RNIB Cymru, mae Dr Yan Wu wedi darganfod bod diffyg dealltwriaeth cyffredinol o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl â nam ar y golwg wrth ddefnyddio technoleg ddigidol, gan gael effaith ddifrifol ar eu bywydau.
Meddai Dr Wu, sef prif ymchwilydd y prosiect a ariennir drwy'r Ganolfan Herio Amgylcheddau Dynol ac Effaith Ymchwil ar gyfer Economi Ddigidol Gynaliadwy ac Iach: “Mae ein cymdeithas yn dibynnu'n gynyddol ar ddyfeisiau digidol cysylltiedig er mwyn defnyddio gwasanaethau, cyflawni gofynion gwaith, a rheoli hanfodion beunyddiol. Fodd bynnag, gwnaeth ein gwaith ymchwil ddarganfod bod diffyg cyfranogiad yn y broses o ddatblygu technoleg, a hygyrchedd gwael i'r we ac apiau, yn ogystal â diffyg integreiddio a safoni rhwng dyfeisiau a chyfryngau, wedi atal pobl â nam ar y golwg rhag gwneud y mwyaf o'r gwelliannau digidol sydd wedi bod o fudd i weddill ein cymdeithas.”
Mae Susan Thomas yn byw yn Nhregŵyr, mae ganddi nam ar y golwg a gwnaeth ei phrofiad o ddefnyddio technoleg gyfrannu at yr adroddiad. Fel gwirfoddolwr gyda'r RNIB a Sight Life yn Abertawe, mae Susan yn credu bod technoleg yn bwysig iawn i'w bywyd pob dydd. Mae hi'n dweud na fyddai hi byth heb ei ffôn clyfar na'i thabled, ac mae hi'n eu defnyddio'n aml er mwyn siopa am fwyd a dillad. Fodd bynnag, nid yw rhai gwefannau'n galluogi defnyddwyr i chwyddo'r testun neu'r delweddau, ac maent yn anodd eu defnyddio. Hefyd, mae hi'n deall sut gallai rhai pobl sydd â nam ar y golwg fod yn nerfus ynghylch diogelwch ar-lein.
Meddai Susan: "Cymerodd hi ychydig amser i mi ymgyfarwyddo â'r dechnoleg, a gallwch fod yn bryderus pan fydd yn rhaid i chi gyflwyno rhif eich cerdyn credyd. Ar ôl i mi wneud hynny ychydig o weithiau, roeddwn i'n hyderus ac rwy'n teimlo'n gyfforddus nawr. Rwy'n gallu deall efallai na fydd rhai pobl yn awyddus i roi cynnig arno, ond yn fy marn i roedd yn rhaid i mi ei wneud neu fel arall byddwn i heb ffordd o symud ymlaen."
Er bod yn rhaid i wefannau ac apiau pob llywodraeth genedlaethol a datganoledig, a rhai elusennau a chyrff anllywodraethol, ddilyn canllawiau hygyrchedd cymharol gaeth, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, nododd y gwaith ymchwil nad yw'r cyfyngiadau hynny'n berthnasol i wefannau masnachol yn y DU.Mae gwefannau ac apiau llawer o'r cyrff masnachol hyn wedi cael eu defnyddio'n gynyddol fel adnoddau marchnata, sy'n arwain at ddiweddariadau mynych er mwyn blaenoriaethu cyrraedd gweithwyr proffesiynol trefol cefnog. Felly, nid yw nodweddion hygyrchedd yn cael eu blaenoriaethu ac yn aml nid ydynt yn goroesi ar ôl y diweddariadau hynny.
Meddai Cydlynydd Technoleg am Oes RNIB – Cymru, Hannah Rowlett: "Mae pobl sydd â nam ar y golwg yn elwa ar dechnoleg gymaint yn fwy nag y mae'r boblogaeth gyffredinol, ond maen nhw'n wynebu nifer mwyaf y rhwystrau wrth ddod yn ddigidol llythrennog. Mae hyfforddiant a chymorth parhaus yn hanfodol er mwyn i bobl sydd â nam ar y golwg feithrin sgiliau magu hyder, a mynd i'r afael ag atebion digidol er mwyn cael annibyniaeth, ac er mwyn hyrwyddo eu lles. Mae technoleg yn newid byth a beunydd, ac mae cymorth parhaus yn golygu y bydd pobl yn meithrin y sgiliau ac yn eu cadw."