Gallai clefydau enbyd sy'n difetha cnydau bwyd megis coffi, almon, sitrws a gwinwydd – gan gael effeithiau economaidd ac amgylcheddol byd-eang difrifol – gael eu rheoli drwy eu sganio o'r awyr ar raddfa fawr, yn ôl ymchwil gydweithredol newydd y mae Prifysgol Abertawe wedi cyfrannu ati.
Bob blwyddyn, amcangyfrifir bod pathogenau mewn planhigion yn achosi clefydau sy'n difetha 16% o gynhyrchiant yn fyd-eang – lefel sydd heb ostwng yn sylweddol dros y 40 mlynedd diwethaf, er gwaethaf y defnydd cynyddol o blaladdwyr. Fodd bynnag, gellid dadlau mai'r pathogen Xylella fastidiosa (Xf) yw'r bygythiad mwyaf i gnydau, gan achosi gwywo, melynu a cholli dail, lleihau maint ffrwythau a'u lladd, a bygwth o leiaf 550 o rywogaethau ledled y byd.
Mae'r pathogen Xf yn amharu'n ddifrifol ar gynhyrchiant amaethyddiaeth, gan arwain at golledion gwerth hyd at €5.2 biliwn bob blwyddyn yn y sector olifau'n unig. Y tu allan i America ac Ewrop, mae ymlediad y pathogen hwn yn Asia ac Israel wedi ychwanegu at alwadau rhyngwladol i gyfyngu ar epidemig byd-eang Xf.
Roedd ymchwilwyr o Adran Daearyddiaeth Prifysgol Abertawe ymysg tîm rhyngwladol o arbenigwyr o Brifysgol Salford, Prifysgol Melbourne (UoM), Cyngor Ymchwil Cenedlaethol Sbaen (CSIC) a'r Comisiwn Ewropeaidd a wnaeth sganio miliwn o goed heintiedig ac iach mewn saith rhanbarth ledled Ewrop. Gan ddefnyddio technoleg delweddu uwch, o'r enw delweddu hypersbectrol, a delweddu thermol, gwnaethant ddarganfod y gellid datgelu clefydau heintus i blanhigion wedi'u hachosi gan y pathogen Xf cyn i symptomau ddod i'r amlwg.
Mae'r ymchwil dan arweiniad yr Athro Pablo Zarco-Tejada (UoM a CSIC) a gyhoeddwyd yn Nature Communications yn datgelu y gall dulliau newydd o sganio cnydau planhigion ar raddfa fawr o'r awyr fod yn gywir hyd at 92% wrth ddatgelu Xf ac y gallant fod yn hollbwysig wrth gyfyngu ar y pathogen neu ei ddileu hyd yn oed.
Prif bwyslais y tîm o Brifysgol Abertawe oedd datblygu a gosod y modelau trosglwyddo ymbelydrol a ddefnyddiwyd i gasglu teithi'r planhigion, yn ogystal â chyfranogi yn y gwaith maes a'r broses o gasglu data o'r awyr.
Meddai Alberto Hornero, ymchwilydd o Brifysgol Abertawe: “Mae'r ymchwil newydd hon yn gam ymlaen o ran gwaith sgrinio hypersbectrol ar raddfa fawr i ddatgelu Xf. Gallwn bellach glustnodi'n fanwl gywir pa gnydau yr effeithir arnynt gan y pathogen Xf yn hytrach na chan achosion amgylcheddol eraill cyn i unrhyw symptomau ymddangos. Yn y dyfodol, gallai hyn hwyluso'r gwaith o gymryd camau cyfyngu a dileu mwy amserol i ddiogelu cnydau a all helpu i leihau effeithiau amgylcheddol ac economaidd Xf ledled y byd.”