Bydd arddangosfa unigryw a fydd yn cynnwys gwaith celf realiti rhithwir a grëwyd gan bobl ifanc i fynegi eu teimladau am eu hiechyd meddwl yn cael ei chynnal yn Abertawe y mis hwn.
Y digwyddiad yw cam diweddaraf prosiect Prifysgol Abertawe sy'n archwilio sut mae pobl ifanc yn cyhoeddi, yn rhannu ac yn gweld delweddau ar-lein i fynegi eu hanes a'u cyflwr meddwl.
Mae ymchwilwyr ac artistiaid yn gweithio gyda phobl ifanc o'r gymuned yn ogystal â rhai y mae'n anodd eu cyrraedd fel rheol – ffoaduriaid a cheiswyr lloches, pobl ifanc drawsryweddol, rhai sy'n derbyn gofal a rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl neu sy'n hunan-niweidio.
Bydd yr arddangosfa'n cael ei chynnal yn Theatr Volcano ar y Stryd Fawr fel rhan o brosiect o'r enw Be Seen, a ddaeth â phobl ifanc ynghyd â gweithwyr proffesiynol o feysydd y celfyddydau, iechyd meddwl, gwyddor data a meddygaeth.
Yr Athro Ann John, o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, sy'n arwain y prosiect a bydd hi a'r Llwyfan Data Iechyd Meddwl Arddegwyr yn cyflwyno'r digwyddiad gyda'r artist a'r cyd-arweinydd Karen Ingham.
Meddai'r Athro John: “Mae'r ffordd y mae pobl ifanc yn cyfathrebu wedi newid yn gyflym. Maent yn awyddus i rannu eu straeon ac maent yn gwneud hyn yn bennaf drwy ddelweddau – ffotograffau a fideos – bellach wrth i gyfryngau sy'n seiliedig ar ddelweddau ddisodli fforymau ac ati.
“Mae dulliau o gysylltu gwybodaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau ar unwaith wedi arwain at obaith ar gyfer oes newydd o ymchwil i iechyd meddwl pobl ifanc.
“Ein gweledigaeth yw i leisiau pobl ifanc ‘gael eu gweld’ a chael dylanwad ar y defnydd o'u data a'r sgwrs gyhoeddus am eu defnydd o ddelweddau i fynegi iechyd meddwl.
“Yr arddangosfa hon yw canlyniad y weledigaeth honno, ac rydym yn edrych ymlaen at gael cyfle i rannu eu gwaith gyda chynulleidfa ehangach.”
Yn ystod y prosiect, cynhaliwyd gweithdai gyda phobl rhwng 16 a 24 oed yn Plymouth ac Abertawe a wnaeth ganolbwyntio ar iechyd meddwl a lles, y defnydd o ddata mawr ac adrodd straeon drwy ddelweddau gweledol megis ffotograffau, ffilmiau a realiti rhithwir.
Y syniad oedd helpu pobl ifanc i feithrin dealltwriaeth well o'r materion sy'n gysylltiedig â'r defnydd o ddelweddau i bortreadu iechyd meddwl a hunan-niwed, ac ystyried risgiau a manteision defnyddio delweddau at ddibenion hunanfynegiant yn y byd modern.
Dywedodd yr Athro John y bydd adborth o'r arddangosfa a'r fideo a fydd yn cyd-fynd â hi yn cael ei ddefnyddio i lywio ymchwil yn y dyfodol ac i ddylanwadu o bosib ar bolisïau sy'n ymwneud â rhannu delweddau o hunan-niwed ar-lein.
Ychwanegodd: “Rydym hefyd yn gobeithio creu pecyn cymorth ar-lein, ar y cyd â phobl ifanc, er mwyn helpu unigolion i ddefnyddio delweddau i adrodd eu straeon, ar sail canfyddiadau'r prosiect, yn ogystal â rhannu ein gwaith gyda rhanddeiliaid.”
Ariannwyd y prosiect Be Seen gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Bydd yr arddangosfa am ddim yn cael ei chynnal o ddydd Mawrth, 16 Tachwedd i ddydd Gwener, 19 Tachwedd.