Mae plant yn fwy tebygol o ddioddef o iselder ac o beidio â chyflawni cerrig milltir addysgol os ydynt yn byw gyda rhiant sy'n dioddef o iselder, yn ôl astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn mynediad agored PLOS ONE gan Sinead Brophy o Brifysgol Abertawe a'i chydweithwyr.
Mae'n hysbys bod iselder mamau'n ffactor risg ar gyfer iselder plant a bod cysylltiad rhyngddo ac amrywiaeth o ganlyniadau niweidiol o ran iechyd ac addysg plant, gan gynnwys cyrhaeddiad academaidd gwaeth.
Fodd bynnag, hyd yn hyn, nid yw'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig ag iselder rhieni wedi cael eu harchwilio mor drwyadl. Mae goblygiadau o ran atal ac ymyrryd yn gynnar yn gysylltiedig â deall effeithiau amseriad iselder mamau a thadau ar eu plant.
Yn yr astudiaeth newydd, gwnaeth yr Athro Brophy, o'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR), a'i chydweithwyr yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) ddefnyddio data o fanc data SAIL yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Casglwyd y data fel rhan o'r astudiaeth Ganwyd yng Nghymru, sydd wedi cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Gwnaeth yr astudiaeth ddefnyddio gwybodaeth am blant a anwyd yng Nghymru rhwng 1987 a 2018, yn ogystal â'u mamau a'u tadau – neu ddyn sefydlog yn yr un aelwyd. Mae'r dehongliadau o iselder rhieni a phlant yn deillio o gofnodion meddygon teulu ym manc data SAIL.
• At ei gilydd, roedd 34.5% o'r mamau a 18% o'r tadau/dynion sefydlog wedi dioddef o iselder.
• Roedd 4.34% o'r holl blant – 2.85% o'r bechgyn a 5.89% o'r merched – wedi dioddef o iselder.
• Roedd plant yn fwy tebygol o ddioddef o iselder os oedd eu mam wedi dioddef o iselder cyn iddynt gael eu geni, ar ôl iddynt gael eu geni, neu'r ddau beth.
• Roedd y risg o iselder hefyd yn uwch pan oedd y tad neu’r dyn sefydlog wedi dioddef o iselder cyn i blentyn gael ei eni, ar ôl iddo gael ei eni, neu'r ddau beth.
• Ar ben hynny, roedd y tebygolrwydd o gyflawni cerrig milltir ar ddiwedd cyfnod plentyn yn yr ysgol gynradd yn llawer llai os oedd y naill riant wedi dioddef o iselder – er enghraifft, roedd y tebygolrwydd o basio profion Cyfnod Allweddol 3 yn 0.57 os oedd mam plentyn wedi dioddef o iselder cyn ac ar ôl iddo gael ei eni, ac yn 0.56 os oedd ei dad neu'r dyn sefydlog wedi dioddef o iselder cyn ac ar ôl i'r plentyn gael ei eni.
Roedd y ffactorau risg eraill ar gyfer iselder plant a nodwyd gan yr astudiaeth yn cynnwys: bod yn ferch, byw gyda mam sy’n cymryd gwrthiselyddion a byw heb ddyn sefydlog yn yr aelwyd.
Daeth yr awduron i'r casgliad fod angen rhoi mwy o sylw i effaith iselder tadau nag yn y gorffennol, ac maent yn awgrymu y bydd ymagweddau cyfannol at les ac iselder yn y teulu cyfan yn helpu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant.
Meddai'r Athro Sinead Brophy o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, arweinydd yr astudiaeth:
“Mae plant sy'n byw gyda rhiant (mam neu dad) sy'n dioddef o iselder yn fwy tebygol o ddioddef o iselder hefyd ac o beidio â bod mor llwyddiannus yn yr ysgol â phlant sy'n byw gyda rhiant sy'n cael triniaeth am iselder.
Mae gweithio gyda theuluoedd a thrin iselder rhieni (yn achos tadau yn ogystal â mamau) yn debygol o fod yn fuddiol i iechyd meddwl a chyrhaeddiad addysgol plant yn y tymor hir. Mae hyn yn bwysicach nag erioed ar ôl y cyfnodau clo a Covid-19, gan fod iselder yn heintus hefyd.”