Mae presenoldeb gwael yn yr ysgol yn cael effaith ar ddyfodol plentyn, yn gymdeithasol ac yn ddatblygiadol, yn ogystal â'i lwyddiant addysgol.
Mae disgyblion sydd ag anhwylderau meddyliol a niwroddatblygiadol neu sy'n hunan-niweidio yn fwy tebygol o fod yn absennol o'r ysgol neu o gael eu gwahardd na'u cyd-ddisgyblion.
Mae ymchwilwyr bellach yn dweud bod yr absenoldebau hyn yn arwyddion posib o iechyd meddwl gwael yn y presennol neu yn y dyfodol ac y gellid eu defnyddio i glustnodi asesiadau hollbwysig ac i ymyrryd yn gynnar mewn modd a allai newid bywydau.
Tynnodd astudiaeth dan arweiniad yr Athro Ann John o Brifysgol Abertawe sylw at bwysigrwydd strategaethau gofal iechyd integredig mewn ysgolion i helpu i ennyn diddordeb pobl ifanc yn eu haddysg.
Meddai'r Athro John: “Mae plant sydd ag iechyd meddwl gwael, sy'n niwroamrywiol neu sy'n hunan-niweidio yn cael problemau yn yr ysgol yn aml.
“Dylai gweithwyr proffesiynol, gwasanaethau a'r rhai sy'n llunio polisïau ym meysydd iechyd ac addysg fod yn ymwybodol y gall plant sy'n absennol yn aml fod yn dioddef o afiechyd emosiynol, p'un a ydynt yn cael y diagnosis hwnnw yn yr ysgol neu fel oedolyn ifanc.
“Gall absenoldebau a gwaharddiadau fod yn adnodd defnyddiol i nodi'r rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Yn ogystal â lleihau gofid ac anawsterau uniongyrchol y person ifanc, gall ymyrryd yn gynnar hefyd newid llwybrau bywyd gwael a gwella canlyniadau'n ddiweddarach mewn bywyd.”
At ddibenion yr astudiaeth newydd, gwnaeth ymchwilwyr o brifysgolion Abertawe, Caerdydd a Chaergrawnt a GIG Cymru archwilio'r cysylltiad rhwng presenoldeb (absenoldebau a gwaharddiadau) a niwroamrywiaeth, iechyd meddwl a hunan-niweidio ymhlith 437,412 o ddisgyblion ysgol yng Nghymru rhwng saith ac 16 oed o 2009 i 2013.
Mae eu papur, sydd wedi'i gyhoeddi yn The Lancet Psychiatry, yn tanlinellu bod plant a phobl ifanc sy'n cael diagnosis o anhwylder niwroddatblygiadol, anhwylder meddwl neu hunan-niweidio cyn iddynt gyrraedd 24 oed yn llawer mwy tebygol o fod yn absennol o'r ysgol na'u cyfoedion.
Roedd cyfraddau absenoldeb a gwaharddiad yn uwch ar ôl 11 oed yn achos plant yn gyffredinol ond i raddau anghymesur yn achos â rhai ag anhwylder cofnodedig.
Daeth yr astudiaeth i'r casgliad hefyd fod unigolion â mwy nag un anhwylder cofnodedig yn fwy tebygol o fod yn absennol neu o gael eu gwahardd a bod hyn yn gwaethygu yn unol â phob anhwylder ychwanegol.
Gall anhwylderau niwroddatblygiadol, problemau iechyd meddwl a hunan-niweidio effeithio ar bresenoldeb mewn llawer o ffyrdd. Mae'r rhain yn amrywio o ymddygiadau sy'n tarfu ar eraill ac yn arwain at waharddiad, a symptomau somatig megis bola tost a chur pen sy'n arwain at absenoldebau awdurdodedig, i symptomau sy'n gysylltiedig â gorbryder ac iselder, a phroblemau gyda'r teulu neu gyfoedion megis bwlio.
Os bydd absenoldebau'n arwain at ynysu cymdeithasol a pherfformiad academaidd gwaeth, gall problemau iechyd meddwl a phresenoldeb waethygu.
Nododd yr astudiaeth wahaniaethau pwysig rhwng y rhywiau hefyd: “O fewn y poblogaethau a oedd wedi cael diagnosis, roedd merched ag anhwylderau niwroddatblygiadol, iselder a phroblemau camddefnyddio sylweddau yn fwy tebygol o fod yn absennol, ac roedd bechgyn yn fwy tebygol o gael eu gwahardd.”
Ychwanegodd yr Athro John: “Mae hyn yn cyd-fynd â'r farn bod bechgyn yn mynegi eu gofid meddyliol drwy eu hymddygiad, sydd yn ei dro'n effeithio ar amgylchedd yr ysgol ac yn arwain at eu gwahardd, a bod merched, yn enwedig os oes ganddynt anhwylderau emosiynol neu os ydynt yn cael diagnosis hwyr o anhwylderau niwroddatblygiadol, yn tueddu i fod yn fwy pryderus ac i dynnu yn ôl o gysylltiadau cymdeithasol.”
Fodd bynnag, dywedodd y tîm fod disgyblion â statws anghenion addysgol arbennig yn llai tebygol o fod yn absennol neu o gael eu gwahardd, gan dynnu sylw o bosib at effaith gadarnhaol cydnabyddiaeth, diagnosis ac ymyriadau addysgol.
Dywedodd yr Athro John fod yr astudiaeth yn unigryw oherwydd ei bod hi'n cysylltu data iechyd gofal sylfaenol ac eilaidd â data addysgol.
Ychwanegodd: “Mae diddordeb cynyddol mewn rhaglenni atal ac ymyrryd yn gynnar mewn ysgolion sy'n canolbwyntio ar wella amgylchedd a diwylliant ysgolion at ddibenion lleihau problemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc. Mae ymyriadau eraill wedi cynnwys ymyriadau seicolegol sy'n canolbwyntio'n bennaf ar symptomau gorbryder ac iselder.
“Mae hyn yn fwy perthnasol wrth i blant ddychwelyd i'r ysgol ar ôl iddynt fod ar gau ac yn dilyn y dysgu cyfunol yn ystod y pandemig.
“Gallai data am bresenoldeb a gwaharddiadau ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch lle dylid clustnodi adnoddau cyfyngedig. Gall strategaethau ar gyfer atal problemau iechyd meddwl mewn ysgolion hefyd helpu i feithrin gwytnwch, gan alluogi disgyblion i ddatblygu strategaethau ar gyfer rheoli a gwella eu hiechyd meddwl a'u lles, yn ogystal â deall pryd i geisio cymorth ychwanegol a sut gellir gwneud hynny.”
Gwnaed y gwaith hwn gan Blatfform Data Iechyd Meddwl y Glasoed ym Mhrifysgol Abertawe, cafodd ei ariannu gan MQ ac mae'n rhan o raglen Ymchwil Data Gweinyddol (ADR) Cymru.