Mae'r DU yn ‘eithriad rhyngwladol’ yn ei hymagwedd at ddiogelu plant rhag Covid-19, mae arbenigwyr yn dadlau yn The BMJ heddiw.
Mae Dr Simon Williams, gwyddonydd ymddygiad ym Mhrifysgol Abertawe, a'r gwyddonwyr yr Athro John Drury, yr Athro Susan Michie, yr Athro Christina Pagel a Dr Adam Squires yn cyfeirio at y ffaith bod mwy na thrydedd ran o filiwn o blant yn y DU yn absennol o'r ysgol ar hyn o bryd, yn ogystal â bron 1 o bob 10 athro ac arweinydd ysgol, a bod cyfraddau ailheintio cynyddol yn golygu bod rhai plant wedi gorfod ynysu sawl gwaith.
Fodd bynnag, er bod dealltwriaeth well o lawer o'r hyn sy'n llwyddo i gadw ysgolion ar agor a chyfraddau heintio yn is, maent yn dadlau nad yw rhai mesurau i ddiogelu plant ar waith yn iawn.
Er enghraifft, maent yn nodi er bod y rhestr o wledydd sy'n cynnig brechiadau i blant 5 oed ac yn hŷn yn tyfu'n gyflym, nid yw'r DU wedi cynnig cyngor hyd yn hyn ynghylch a ddylid cynnig brechiadau i bob plentyn rhwng 5 ac 11 oed ai peidio.
“Mae angen cael mwy o dryloywder ynghylch pryd mae cyngor yn debygol o gael ei roi, a hynny ar frys, er mwyn esbonio pam mae'r DU yn eithriad rhyngwladol drwy beidio â rhoi'r dewis i rieni ynghylch a ddylid brechu eu plentyn ai peidio,” maent yn ysgrifennu.
Maent hefyd yn cyfeirio at y dystiolaeth gynyddol bod mesurau glanhau aer yn gallu helpu i leihau ymlediad Covid-19 mewn ysgolion, yn enwedig pan fydd athrawon a staff yn gwisgo mygydau ar yr un pryd.
Er bod nifer cynyddol o wledydd yn buddsoddi'n sylweddol mewn mesurau awyru fel rhan o strategaeth tymor hwy i ddarparu aer glanach dan do, mae'r DU wedi canolbwyntio ar “atebion cyflym i wella awyru megis y gallu i agor ffenestr” yn unig, gan ddarparu 7,000 o unedau glanhau aer ychwanegol i ysgolion yn ddiweddar, er gwaethaf y ffaith bod mwy na 300,000 o ystafelloedd dosbarth yn Lloegr yn unig.
“Mae'n amlwg nad yw awyru ystafelloedd dosbarth yn ddigon i atal Omicron rhag mynd ar ras wyllt drwy ysgolion,” meddent.
Maent yn cydnabod bod y risg y bydd plant yn dioddef o salwch difrifol o ganlyniad i Covid-19 yn llawer llai nag oedolion (yn enwedig rhai hŷn), ond maent yn dweud bod nifer o niweidiau o hyd sy'n deillio o geisio ymdopi â chyfraddau heintio uchel mewn ysgolion.
Mae'r rhain yn cynnwys niferoedd uwch nag erioed o blant sy'n dioddef o Covid-19 yn cael eu derbyn i'r ysbyty, cyfraddau uwch o Covid hir ymhlith plant, a tharfu ar addysg oherwydd bod nifer uchel o blant ac athrawon yn absennol o ganlyniad i heintiau.
Maent hefyd yn dadlau y dylid ystyried bod mygydau wyneb yn fesur diogelu yn hytrach na chyfyngiad, gan alluogi plant i ddal ati i ddysgu yn yr ysgol ac i athrawon ddal ati i addysgu yn yr ysgol, ac yn dweud “gallem eu diogelu ymhellach drwy uwchraddio o fygydau brethyn neu rai meddygol tafladwy i fygydau hidlo, y dylid eu darparu am ddim fel y mae gwledydd eraill yn ei wneud.”
Maent yn dod i'r casgliad canlynol: “Mae honiad llywodraeth y DU ynghylch ‘cadw plant yn yr ystafell ddosbarth’ yn ffuantus ac yn gorchuddio ymagwedd ffwrdd â hi sydd mewn gwirionedd yn caniatáu i blant gael eu heintio a cholli'r addysg a'r datblygiad cymdeithasol a datblygiadau eraill sy'n deillio o fod yn bresennol yn yr ysgol.”