Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymuno â phrifysgolion a sefydliadau academaidd ledled y byd wrth gondemnio'n ddiamwys benderfyniad gwladwriaeth Rwsia i ymosod ar Wcráin.
Rwy'n siŵr fy mod i'n siarad dros gymuned gyfan ein Prifysgol wrth fynegi arswyd a ffieidd-dod ynghylch y weithred ryfelgar ddireswm hon, a'r creulondeb, y dioddefaint a'r dadleoliad sydd wedi dilyn yn ei sgîl.
Rydym yn sefyll ochr yn ochr â phobl Wcráin wrth amddiffyn eu sofraniaeth, eu hannibyniaeth a'u rhyddid democrataidd.
Rydym hefyd yn sefyll ochr yn ochr â llawer o Rwsiaid, yma yn y DU ac yn Rwsia, sy'n gresynu at weithredoedd gwladwriaeth Rwsia ac sydd yn aml yn peryglu eu hunain drwy ddangos eu gwrthwynebiad.
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn falch o'n cymuned ryngwladol amrywiol o staff a myfyrwyr, sy'n cynnwys aelodau o Wcráin a Rwsia. Maent i gyd yn rhan o gymuned ein Prifysgol, ac mae ganddynt hawl i gael ein cefnogaeth a'n dealltwriaeth ar hyn o bryd. Rydym yn datgan yn bendant na ddylem fel cymdeithas briodoli i ddinasyddion cenhedloedd ymosodol weithredoedd gwrthun llywodraethau ac unigolion sy'n gweithredu ar ran gwladwriaethau.
Mae cydweithwyr ym mhob rhan o'n Prifysgol yn gweithio i gynnig cymorth ychwanegol i unrhyw staff neu fyfyrwyr sy'n wynebu anawsterau penodol ar hyn o bryd, gan gynnwys drwy estyn llaw yn bersonol i'r rhai sy'n poeni am anwyliaid.
Fel prifysgol, byddwn hefyd yn ymrwymo i gefnogi CARA (Cyngor ar gyfer Academyddion Mewn Perygl), yn unol â'n huchelgeisiau i fod yn Brifysgol Noddfa. Mae CARA a menter y prifysgolion noddfa yn rhoi cymorth hollbwysig i fyfyrwyr ac academyddion ledled y byd, sy'n byw gydag effeithiau trychinebus rhyfel a gwrthdaro.
Rwy'n cydymdeimlo â phawb yn eich plith yr effeithiwyd arnoch gan y rhyfel hwn a'i ganlyniadau niferus. Mae manylion y cymorth sydd ar gael i staff a myfyrwyr ar gael yma:
Yr Athro Paul Boyle - Is-ganghellor