Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill gwobr Agronomy am y traethawd ymchwil PhD gorau o ganlyniad i'w ymchwil i sefydlu cyfuniad newydd o ddulliau o ganfod clefydau mewn cnydau bwyd, a allai gael effaith economaidd ac amgylcheddol fyd-eang.
Dyfarnwyd y wobr uchel ei bri i Dr Alberto Hornero o Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg y brifysgol gan Agronomy – cyfnodolyn mynediad agored gan MDPI – am ei draethawd ymchwil PhD. Mae'r traethawd ymchwil yn canolbwyntio ar ganfod arwyddion cynnar clefydau a achosir gan bathogenau planhigion drwy ddefnyddio cyfuniad o ddata maes, delweddau o'r awyr a'r gofod, a modelau ffisegol ac empirig.
Mae'r ymchwil hon yn bwysig gan yr amcangyfrifir bod pathogenau planhigion yn achosi 16% o'r cynnyrch a gollir bob blwyddyn. Nid yw'r ganran hon wedi lleihau yn ystod y 40 mlynedd diwethaf a gall fod yn fwy na 30% yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o ran bwyd. Hefyd, mae cynhesu byd-eang a masnach ryngwladol yn cynyddu'r risgiau o ganlyniad i bathogenau sy'n dod i'r amlwg a rhai sydd eisoes yn bodoli sy'n bygwth cynhyrchiant amaethyddol. Er mwyn bwydo poblogaeth y byd wrth iddi dyfu, rhaid i gynhyrchiant bwyd gynyddu 50% yn ystod y 30 mlynedd nesaf, er gwaethaf y tarfu ar yr hinsawdd a'r ffaith bod tir âr yn lleihau.
Gellir defnyddio dulliau Dr Hornero ar gyfer canfod clefydau'n gynnar er mwyn helpu i leihau i ba raddau y terfir ar gynhyrchiant amaethyddol byd-eang a chael effaith sylweddol ar gadw ecosystem y byd yn ogystal â ffactorau cymdeithasol-economaidd.
Meddai Dr Hornero:
“Mae'r gydnabyddiaeth hon o fy llwyddiant yn hynod ystyrlon i fi'n bersonol, ond dylwn i hefyd gydnabod goruchwylwyr fy nhraethawd ymchwil, yr Athro Peter North o Brifysgol Abertawe a'r Athro Pablo Zarco-Tejada o Brifysgol Melbourne, yn ogystal â Dr Rocio Hernandez-Clemente, cyn-aelod o'r gyfadran sydd bellach yn ymchwilydd o fri ym Mhrifysgol Cordoba a fy holl gydweithredwyr, na fyddai'r ymchwil hon wedi bod yn bosib hebddyn nhw. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am y cymorth a ges i gan Brifysgol Abertawe, sy'n destun balchder i fi. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dangos datblygiad methodolegau amlddisgyblaethol a chymhleth i ddod â gwyddoniaeth yn nes at gyd-destun ei rhoi ar waith.”
Fel rhan o'i wobr, bydd Dr Hornero yn cael y cyfle i gyhoeddi papur yn Agronomy yn nes ymlaen eleni ac yn derbyn CHF 500 a thystysgrif i ddynodi'r wobr.