Mae Prifysgol Abertawe wedi perfformio'n well nag erioed yn un o'r tablau mwyaf blaenllaw o brifysgolion y byd fesul pwnc a gyhoeddwyd heddiw.
Llunnir Tablau QS o Brifysgolion y Byd fesul Pwnc 2022 gan QS Quacquarelli Symonds, sy'n dadansoddi addysg uwch yn fyd-eang. Er mwyn rhoi'r tablau at ei gilydd, asesodd QS enw da academaidd, enw da ymysg cyflogwyr ac effaith ymchwil, gan ddadansoddi dros 14.7 miliwn o bapurau ymchwil unigryw a darparu bron 96 miliwn o gofnodion. Rhestrwyd 1,543 o sefydliadau mewn 51 o bynciau penodol, wedi'u categoreiddio yn ôl pum maes pwnc bras.
O ganlyniad i'w bri byd-eang cynyddol, mae Prifysgol Abertawe wedi perfformio'n well nag erioed yn y tablau fesul pwnc.
Yn ôl y tablau diweddaraf, mae Prifysgol Abertawe wedi gwneud y canlynol:
- cael ei chynnwys yn nhablau pob un o'r pum maes pwnc bras yn Nhablau QS o Brifysgolion y Byd fesul Pwnc 2022, wrth i'r Gwyddorau Cymdeithasol a Rheolaeth gael eu hychwanegu eleni yn safle rhif 306.
- cynyddu nifer y pynciau penodol sy'n cael eu cynnwys yn nhablau'r byd o 13 i 20
- cael lle ymysg 300 prifysgol orau'r byd ar gyfer 15 o'r 20 pwnc penodol a restrir
- sicrhau'r naid uchaf yn y tablau o blith yr holl bynciau wrth i bwnc Busnes a Rheoli gael ei restru ymhlith y 200 uchaf bellach (151-200).
- gwella i raddau tebyg yn achos Cyfrifiadureg a'r Gwyddorau Biolegol, sydd bellach ymysg y 300 uchaf (251-300) a'r 350 uchaf (301-350) yn eu tro.
- cael ei rhestru ymysg y 25% o brifysgolion gorau (safle rhif 119) yn y byd yng nghategori pwnc Peirianneg Fecanyddol, Awyrenegol a Gweithgynhyrchu o blith y 520 o brifysgolion a restrir yn y categori hwn.
- sicrhau lle yn y tablau am y tro cyntaf yn achos pwnc y Clasuron a Hanes yr Henfyd, a restrir rhwng 51 ac 80.
- sicrhau lle yn y tablau am y tro cyntaf yn achos pynciau sy'n gysylltiedig â Chwaraeon, a restrir rhwng 51 a 100.
Ymysg y pynciau newydd eraill sy'n ymddangos eleni y mae Seicoleg (201-250), Ieithoedd Modern (251-300), Fferylliaeth a Ffarmacoleg (301-350), Peirianneg Drydanol ac Electronig (401-450), Economeg ac Econometreg (451-500).
Yn y tablau, defnyddir amrywiaeth o fetrigau i gymharu prifysgolion, gyda'r nod o fesur eu perfformiad yn erbyn rhagoriaeth ymchwil (enw da am ymchwil ac effaith dyfyniadau ymchwil) a dewisiadau cyflogwyr ar gyfer recriwtio graddedigion.
Mae trosolwg o berfformiadau'r pynciau yn y tablau eleni'n dangos bod pynciau wedi gwella eu henw da academaidd a'u henw da ymysg cyflogwyr, yn ogystal â sicrhau gwelliannau da o ran dyfyniadau ymchwil.
Meddai Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe ar gyfer Ymchwil, Arloesi ac Effaith: “Rydyn ni'n hynod falch o'r canlyniadau hyn, sy'n cydnabod ymhellach yr ymchwil a'r effaith ardderchog a ddarperir ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r tablau eleni'n adlewyrchu'n well ansawdd ac ehangder y pynciau rydyn ni'n eu cynnig yma. Cydnabyddir llwyddiannau ein staff academaidd dynodedig ac ardderchog yn y tablau hyn. Mae'r rhain yn dablau pynciau o'r radd flaenaf sy'n cynnwys y prifysgolion gorau yn y byd ac mae gweld ein pynciau'n dringo'n rhoi boddhad mawr.
“Mae'r gwelliant hwn yn nhablau byd-eang QS a'n safleoedd uchel yn nhablau cynghrair y DU megis rhif 24 yn The Guardian University Guide yn dangos yn glir fod Prifysgol Abertawe'n parhau i ragori o ran addysgu ac ymchwil.”
Mae safleoedd y Brifysgol yn Nhablau QS fesul pwnc ar gael yma.