Mae Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwebu am bum gwobr yng Ngwobrau Rhagoriaeth AGCAS (Association of Graduate Careers Advisory Services) 2022.
Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe, sy'n rhoi cymorth i fyfyrwyr a graddedigion drwy gynnig cyngor ar yrfaoedd a chyfleoedd am gyflogaeth iddynt, wedi cyrraedd y rhestr fer mewn pedwar categori, gan gynnwys:
- Newydd-ddyfodiad Gorau;
- Arloesi Strategol;
- Meithrin Partneriaethau Effeithiol;
- A dau enwebiad am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb.
Mae Gwobrau Rhagoriaeth AGCAS yn dathlu ac yn rhannu arferion da ymhlith ymarferwyr gyrfaoedd a chyflogadwyedd a'u sefydliadau partner ym maes addysg uwch.
Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cael ei chydnabod am ei Rhaglen Cymorth i Raddedigion, a’i Chwrs Datblygu Gyrfa rhyngweithiol ar-lein sydd ar gael i fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol Abertawe.
Mae'r rhaglenni’n galluogi unigolion i ddatblygu'r sgiliau i'w paratoi ar gyfer y gweithle a hybu eu hyder wrth iddynt baratoi ar gyfer y broses recriwtio a sicrhau swydd i rywun sydd wedi graddio.
Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe hefyd wedi cael ei henwebu am ei chyfranogiad yn RE:Action 24/7, sef partneriaeth rhwng saith prifysgol yn y DU, a TG Consulting, asiantaeth sy'n cysylltu addysgwyr, myfyrwyr a chyflogwyr.
Mae'r rhaglen unigryw hon yn helpu i chwalu rhwystrau i fyfyrwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol llai breintiedig, gan roi mynediad at fodelau rôl ysbrydoledig, hyfforddiant sy'n grymuso, a sesiynau myfyrio.
Ar ôl ei chwblhau, cafwyd cynnydd o 30% yn hyder myfyrwyr Prifysgol Abertawe a chynnydd o 69% mewn cyfeiriad gyrfa.
Meddai Lucy Griffiths, Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe: “Rwyf wrth fy modd bod aelodau tîm Academi Cyflogadwyedd Abertawe wedi cael eu henwebu yng Ngwobrau Rhagoriaeth AGCAS, sy'n uchel eu bri, eleni.
“Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb wrth wraidd cenhadaeth Academi Cyflogadwyedd Abertawe, er mwyn sicrhau chwarae teg i'n holl fyfyrwyr a graddedigion, ac ni fydden ni'n gallu gwneud hyn, a'n nodau strategol eraill, heb weithio'n ardderchog mewn partneriaeth a rhoi pwyslais cryf ar arloesi strategol.
“Rwyf wrth fy modd hefyd fod un o aelodau diweddaraf ein tîm, Rob Yarr, yn cael ei gydnabod am ei effaith, ochr yn ochr â'r tîm ehangach, ar y gwaith yr ymgymerwyd ag ef â phartneriaid talentog ein prifysgol a TG Consulting, sy'n rhagorol.
“Ar ben hynny, mae'n anrhydedd anferth ein bod ni wedi cael ein cydnabod am ein Cwrs Datblygu Gyrfa arloesol a'n Rhaglen Cymorth i Raddedigion, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
“Waeth beth am y canlyniad, mae cael cynifer o enwebiadau'n anhygoel ac yn rhoi tystiolaeth o'r buddsoddiad yng nghyflogadwyedd ein myfyrwyr a'n graddedigion ym Mhrifysgol Abertawe.”
Meddai'r Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Addysg: “Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n rhan o daith pob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.
“Mae'r enwebiadau hyn yn amlygu ymrwymiad y tîm i gefnogi ein myfyrwyr a'n graddedigion wrth iddyn nhw lywio'r broses recriwtio sy'n heriol yn aml.”
Cyhoeddir yr enillwyr yn ystod cynhadledd ar-lein AGCAS, o 21 – 23 Mehefin 2022.
Dysgwch fwy am gyflogadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe.