Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe, Biovici Ltd ac yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol wedi datblygu dull i ganfod feirysau mewn cyfeintiau bach iawn.
Mae'r gwaith, a gyhoeddwyd yn Advanced NanoBiomed Research, yn dilyn prosiect llwyddiannus gan Innovate UK i ddatblygu graffîn i'w ddefnyddio mewn biosynwyryddion - dyfeisiau sy'n gallu synhwyro lefelau isel iawn o farcwyr clefyd.
Mewn llawer o rannau o'r byd sydd heb y labordai technoleg uchel a geir mewn ysbytai, gallai canfod feirysau megis hepatitis C (HCV) osgoi miliynau o farwolaethau y gellir eu hatal ledled y byd. Yn ogystal, gallai biosynwyryddion fel hyn gael eu defnyddio yn y man lle darperir gofal - gan gynnig gofal iechyd effeithiol mewn lleoliadau anodd eu cyrraedd.
Yr hyn sy'n gwneud canfod lefelau mor isel o feirysau yn bosib yw defnyddio deunydd o'r enw graffîn. Mae graffîn yn eithriadol o denau - un atom o drwch yn unig - sy'n golygu ei fod yn sensitif iawn i unrhyw beth sy'n cyffwrdd ag ef. Drwy reoli ei arwyneb yn ofalus, roedd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn gallu gwneud arwyneb graffîn yn sensitif i feirws HCV. Gwnaed y mesuriadau hyn ar y cyd ag arbenigwyr graffîn yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol
Yn y dyfodol, y gobaith yw y gellir datblygu nifer o fiosynwyryddion ar un sglodyn - gallai hwn gael ei ddefnyddio i ganfod mathau gwahanol o feirysau peryglus neu farcwyr clefyd o un mesuriad.
Meddai Ffion Walters, Technolegydd Arloesi yng Nghanolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe: "Mae'r galw am synwyryddion hynod sensitif a syml i'w defnyddio wrth ddarparu gofal yn uwch nag erioed. Mae'r prosiect cydweithredol hwn wedi ein galluogi i ddyfeisio synwyryddion prawf cysyniad mewn amser go iawn ar gyfer HCV, a allai fod yn hynod fuddiol mewn lleoliadau lle mae adnoddau'n brin neu ar gyfer poblogaethau anodd eu cyrraedd.
Meddai'r Athro Owen Guy – Pennaeth Cemeg, Prifysgol Abertawe: "Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym bellach wedi datblygu synwyryddion ar sail graffîn ar gyfer Hepatitis B a C. Dyma gam pwysig ymlaen at ddatblygu prawf sengl i'w ddefnyddio wrth ddarparu gofal yn y dyfodol."
Ychwanegodd Dr Olga Kazakova Cymrawd Deunyddiau Cwantwm a Synwyryddion yn y Labordy Ffiseg Cenedlaethol: "Roedd NPL wrth ei fodd bod yn rhan o'r tîm amlddisgyblaethol hwn. Drwy gymryd rhan yn y prosiect hwn, rydym wedi gallu datblygu ein cyfleusterau dilysu mesuriadau ymhellach a'u defnyddio wrth nodweddu biosynwyryddion graffîn ac i gynorthwyo wrth oresgyn her bwysig yn y sector iechyd."