Mae canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF2021) a gyhoeddwyd heddiw (12 Mai) yn dangos bod cyfran Prifysgol Abertawe o ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy'n rhagori'n rhyngwladol wedi gwella. Yn asesiad 2021, barnwyd bod 86% o ymchwil gyffredinol y Brifysgol yn 4* (yn arwain y ffordd yn fyd-eang) neu'n 3* (yn rhagori'n rhyngwladol) – i fyny o 80% yn REF2014.
Mae REF2021 yn rhoi darlun cenedlaethol o ansawdd ymchwil prifysgolion ledled y DU. Roedd Abertawe'n un o 157 o sefydliadau yn y DU a gyfranogodd yn REF2021, a asesodd ansawdd yr ymchwil a gyhoeddwyd, effaith a buddion ehangach yr ymchwil ac ansawdd yr amgylchedd ymchwil. Aseswyd cyflwyniad pob prifysgol gan gyfres o baneli o arbenigwyr a oedd yn cynnwys ymchwilwyr o'r DU a rhai rhyngwladol, defnyddwyr allanol ymchwil, ac arbenigwyr mewn gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol.
Mae canlyniadau REF2021 yn dangos bod Prifysgol Abertawe wedi cynyddu ansawdd ei chyhoeddiadau ymchwil. Aseswyd bod 85% yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagori'n rhyngwladol, gan ddringo o 76% yn 2014.
Mae'r Brifysgol yn parhau i gael ei chydnabod am effaith ei hymchwil, er enghraifft, budd ei hymchwil y tu hwnt i'r byd academaidd, i'r economi, cymdeithas, diwylliant, polisïau neu wasanaethau cyhoeddus, iechyd, yr amgylchedd ac ansawdd bywyd. Yn gyffredinol, aseswyd bod 86% o effaith y Brifysgol yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagori'n rhyngwladol.
Cydnabuwyd ansawdd ymchwil y Brifysgol hefyd, sy'n cwmpasu'r bobl, yr isadeiledd, yr adnoddau a'r gweithgareddau sy'n cefnogi ymchwil ac yn ei galluogi i gael effaith. Cydnabyddir bod 91% o amgylchedd cyffredinol y Brifysgol yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagori'n rhyngwladol.
Mae'r gymuned ymchwil yn Abertawe wedi ehangu hefyd, wrth i'r Brifysgol gyflwyno gwaith 578 o ymchwilwyr, sef y nifer mwyaf erioed, i REF2021 i'w asesu, sef 56% yn fwy na'r 370 a gyflwynwyd yn 2014.
Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil ac Arloesi:
“Mae ein canlyniadau yn adlewyrchu cynnydd cyffredinol sylweddol yn y gweithgarwch ymchwil yn Abertawe. Mae nifer y dyfarniadau PhD ers REF2014 wedi cynyddu 97%, ac mae ein hincwm ymchwil wedi cynyddu 160% yn ystod yr un cyfnod, o £148m i £286m. Yn rhyngwladol, mae ein bri byd-eang fel partner ymchwil cydweithredol yn ffynnu, gyda'n rhwydweithiau academaidd a busnes bellach yn cwmpasu 127 o wledydd, ac mae 54% o'n hallbynnau ymchwil yn cael eu llunio gan gyd-awduron.”
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:
“Mae canlyniadau REF2021 yn cadarnhau bywiogrwydd ein hamgylchedd ymchwil ac effaith ein hymchwil yng Nghymru, ledled y DU ac yn fyd-eang. Maen nhw'n dangos ein bod yn parhau i fod yn sefydliad cryf sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil ac rydyn ni'n hynod falch o bawb ym mhob rhan o'n cymuned sydd wedi cyfrannu at y cynnydd yng nghyfran ein hymchwil y barnwyd ei bod yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhagori'n rhyngwladol. Mae hyn yn gryn destun balchder i ni.”
Ceir canlyniadau llawn perfformiad Abertawe yn REF2021 yma.