Wrth i gyfraddau canser y croen gynyddu, gan gynnwys llawer o achosion y gellir eu hatal, bydd prosiect ymchwil newydd yn archwilio rôl ysgolion cynradd yng Nghymru ac yn asesu effeithiolrwydd polisïau diogelwch rhag yr haul wrth amddiffyn plant. Bydd y canlyniadau'n helpu i atal canser y croen yn well yng Nghymru a'r tu hwnt.
Mae canser y croen bellach yn gyfrifol am hanner yr holl achosion o ganser yng Nghymru a Lloegr, wrth i nifer yr achosion o felanoma (un o ddau fath o ganser y croen) gynyddu 79.6% yng Nghymru rhwng 2002 a 2018. Fodd bynnag, gellir atal 86% o'r achosion o felanoma drwy leihau cysylltiad ag ymbelydredd uwchfioled yr haul.
Mae astudiaethau'n dangos bod plant sy'n cael eu llosgi’n wael gan yr haul yn fwy tebygol o ddatblygu canser melanoma'r croen pan fyddant yn hŷn. Yn aml, mae plant yn treulio bron hanner eu hamser yn yr ysgol yn chwarae ac yn dysgu yn yr awyr agored. Felly, mae addysgu plant yn yr ysgol sut i'w diogelu eu hunain rhag yr haul yn un ffordd hollbwysig o atal canser y croen.
Mae addysgu diogelwch rhag yr haul yn ddewisol mewn ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae gan rai ohonynt bolisi diogelwch rhag yr haul, sy'n nodi sut byddant yn addysgu plant am y pwnc, a pha gamau y bydd yr ysgol yn eu cymryd, er enghraifft, ynghylch cynnig cysgod neu helpu i ddodi eli haul.
Bydd y tîm ymchwil dan arweiniad Abertawe'n archwilio'r hyn sy'n cael ei addysgu ar hyn o bryd mewn ysgolion yng Nghymru am ddiogelwch rhag yr haul a dylanwad yr addysg honno ar wybodaeth ac ymddygiad plant, athrawon, staff a rheolwyr ysgolion.
Mae arbenigwyr o'r Uned Dreialon yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, arbenigwyr data o Fanc Data SAIL Abertawe a gweithwyr y GIG o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cymryd rhan yn y prosiect – sef Sunproofed.
Bydd tîm y prosiect yn gwneud y canlynol:
- Anfon holiadur i'r holl ysgolion cynradd yng Nghymru er mwyn darganfod a oes ganddynt bolisi diogelwch rhag yr haul a nodi pa gymorth y mae ei angen ar ysgolion yn y maes hwn
- Gwerthuso data'r GIG am losgiadau haul difrifol ymhlith plant, gan ddefnyddio cofnodion iechyd dienw a gedwir gan Fanc Data SAIL Prifysgol Abertawe, er mwyn gweld beth y maent yn ei ddatgelu am effaith polisïau diogelwch rhag yr haul
- Ymweld â phum ysgol – rhai sydd â pholisi diogelwch rhag yr haul a rhai sydd heb bolisi o'r fath – er mwyn siarad â phlant, rhieni, staff a llywodraethwyr ysgolion i gael gwybod beth y maent yn ei wybod am ddiogelwch rhag yr haul
- Cyhoeddi canllawiau i ysgolion ar y ffordd orau o roi polisi diogelwch rhag yr haul ar waith, gan weithio gyda chymunedau ysgolion ac arbenigwyr mewn addysg a chanser y croen
- Rhannu canfyddiadau ag arweinwyr addysg ac iechyd a'u cyhoeddi er mwyn i ymchwilwyr eraill eu gweld
Meddai Dr Julie Peconi o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, prif ymchwilydd prosiect Sunproofed:
“Mae cyfraddau canser y croen yn cynyddu yng Nghymru, gan ychwanegu at y straen ar adnoddau'r GIG sydd eisoes yn gyfyngedig. Ceir tystiolaeth gref bod lleihau cysylltiad plant â'r haul yn gallu helpu i atal canser y croen yn ddiweddarach yn eu bywydau, felly mae angen newid o drin i atal, a hynny ar frys.
Gall addysg mewn ysgolion fod yn ffordd hollbwysig o gyflawni hyn. Mae ein hastudiaeth yn gam cyntaf hanfodol, gan y bydd yn rhoi darlun i ni o'r sefyllfa bresennol yng Nghymru a'r hyn y gellir ei wneud i'w gwella.
Ymysg canlyniadau ein hastudiaeth y bydd cyfranogwyr yn cydweithio i ysgrifennu cynllun gweithredu ar gyfer ysgolion.Bydd hwn yn helpu ysgolion i ddechrau defnyddio polisïau diogelwch rhag yr haul, gan gadw mwy o blant yn ddiogel rhag canser y croen yn ddiweddarach yn eu bywydau.”
Mae manylion prosiect Sunproofed newydd gael eu cyhoeddi yn y cyfnodolyn PLOS One, dan y pennawd: “A mixed methods scoping study of sun safety policies in primary schools in Wales”.